Newyddion
Canfuwyd 37 eitem, yn dangos tudalen 1 o 4
Amgueddfa Cymru i arwain cynllun ymchwil cydweithredol gwerth £1.8 miliwn i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i waith yn y sector diwylliant a threftadaeth
Mae Amgueddfa Cymru wedi sicrhau cyllid ar gyfer project ymchwil ochr yn ochr â phedwar sefydliad mawr yng Nghymru i baratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi yn y sector diwylliant a threftadaeth.
Amgueddfa Cymru yn cadarnhau rhaglen i gofio 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Drigain mlynedd ers Trychineb Aberfan, mae Amgueddfa Cymru wedi cadarnhau rhaglen o weithgareddau yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac ar-lein. Bydd y rhaglen yn plethu casgliadau, lleisiau cymunedol, hanesion llafar, adnoddau addysg newydd, mynediad digidol ac ymatebion creadigol er mwyn cofio, myfyrio, a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r drychineb a'i effaith.
Arddangos cerfiadau Rhufeinig am y tro cyntaf – portreadau cynharaf Cymru o bosibl
Bydd dau banel carreg cerfiedig Rhufeinig, portreadau cynharaf Cymru o bosibl, yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Cymru.
Amgueddfa Wlân Cymru yn Plethu Traddodiad ac Arloesedd yn y Flwyddyn sy'n Nodi Hanner Canrif ers ei Sefydlu
Wrth i Amgueddfa Wlân Cymru nodi 50 mlynedd o addysgu ac ysbrydoli ymwelwyr, mae'r cyfuniad o grefftwaith traddodiadol, technoleg fodern a chelf gyfoes yn dangos sut mae treftadaeth tecstilau Cymru yn parhau i esblygu tra'n parhau i fod â gwreiddiau cadarn yn ei gorffennol.
Bydd yr Haul yn Dod Allan yfory yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae'r aros drosodd. Mae Helios, gosodwaith saith metr o led o'r Haul, wedi glanio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac o 10am yfory (21 Gorffennaf 2026), gall ymwelwyr brofi'r gwaith celf gan Luke Jerram drwy gydol gwyliau'r haf am ddim.
Amgueddfa Cymru yn sicrhau £1.6m i arwain hwb DiSSCo UK | Gorllewin
Amgueddfa yn rhan o broject mawr i ddatgloi dros 300 mlynedd o ddata bioamrywiaeth
ARTIST ROOMS yn dod ag arddangosfa fawr Helen Chadwick i Oriel y Parc
Bydd arddangosfa fawr o waith gan Helen Chadwick, a fydd yn dangos, am y tro cyntaf, ei chyfres Viral Landscapes yn y dirwedd a’i hysbrydolwyd, yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yr haf hwn, gan ddod â chelf gyfoes sy’n adnabyddus yn rhyngwladol i ganol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mwynhewch Daith Danddaearol Big Pit am ddim yr haf hwn
Bydd ymwelwyr â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn gallu mynd ar y Daith Danddaearol am ddim drwy gydol gwyliau haf yr ysgolion eleni, fel rhan o Haf o Hwyl – cyfres o weithgareddau hwyliog, cyfeillgar i deuluoedd ac i bawb eu mwynhau.
Trysorau o longddrylliad i'w gweld mewn arddangosfa newydd yn Abertawe
Mae arddangosfa o drysor o'r 16eg ganrif gan gynnwys ceiniogau aur o weddillion llong fasnach yr Ann Francis wedi agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Gwenwch, mai'n ddydd GWENer. Mis i ddathlu pen-blwydd Gwen John yn 150 oed
Dros wythnosau olaf arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae Amgueddfa Cymru yn cynnig tocynnau am ddim i unrhyw un â'r enw Gwen!
Amgueddfa Cymru yn caffael casgliad o wrthrychau diwylliant cerddoriaeth amgen Cymru
Mae un o eiconau cerddorol Cymru, Rhys Mwyn, wedi rhoi nifer o wrthrychau i Amgueddfa Cymru, gan gyfoethogi'r casgliad bywyd diwylliannol.
Arddangosfa ffotograffiaeth newydd gan Clémentine Schneidermann a Charlotte James yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddathlu degawd o greadigrwydd yng nghymoedd de Cymru.
Bydd Ffasiwn yn cyflwyno 56 darn o waith gan y ffotograffydd Ffrengig Clémentine Schneidermann a'r cyfarwyddwr creadigol o Ferthyr, Charlotte James ac yn dathlu deng mlynedd o It's Called Ffasiwn, sef project ffotograffiaeth, ffasiwn a chreadigrwydd â'i wreiddiau yn y gymuned.