Ehangu Safbwynt(iau): pecyn cymorth newydd yn rhannu gwersi yn dilyn prosiect i ehangu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig amgueddfeydd ac orielau Cymru
Broadening Perspectives: new toolkit shares lessons from effort to diversify Wales’ museums and galleries
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth o fyfyrdodau a gwersi o raglen gafodd ei chynllunio i greu newid yn yr ystod o leisiau sy'n prosesu a dehongli hanes Cymru mewn amgueddfeydd ac orielau celf.
Mae'r pecyn cymorth ar-lein yn rhannu llwyddiannau a heriau'r rhaglen dwy flynedd yn y gobaith y gall cyfraniadau gan artistiaid, orielau, amgueddfeydd a gweithwyr creadigol eraill gael eu defnyddio gan bobl sy'n gwneud gwaith tebyg i lywio prosiectau yn y dyfodol.
Nod y rhaglen oedd dechrau newid sut y mae sector y celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig Cymru. Yn ôl y gwerthusiad:
- Roedd y rhaglen yn daith o adlewyrchu ac yn gyfle datblygiadol i sefydliadau celfyddydol gweledol sydd, nid yn unig wedi dylanwadu ar arferion mewnol, ond hefyd wedi newid y ffordd y mae aelodau o’r staff yn ymgysylltu â’r celfyddydau.
- Mae ymchwil newydd ac ail-archwilio eitemau hanesyddol o gasgliadau’r amgueddfeydd gan weithwyr creadigol yn tynnu sylw at y cyfle gwych i adrodd straeon mwy cynhwysol ac amrywiol yn y ffordd y cynrychiolir bywyd cyfoes a hanesyddol yn y sector diwylliannol.
- Bydd gwersi o’r rhaglen yn llywio ymdrechion Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn y dyfodol. Byddant yn creu sylfaen gryfach am waith gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol ac yn meithrin cysylltiadau parhaol â phartneriaid creadigol, rhanddeiliaid a chymunedau amrywiol.
Dywedodd Daniel Trivedy, Cynhyrchydd Creadigol y rhaglen:
"Wrth lunio'r gwerthusiad o'r prosiect uchelgeisiol, roedd cyfle i fod yn agored ac onest am y gwersi a ddysgwyd mewn ffordd a fyddai o fudd i eraill. Felly, mae'r pecyn cymorth yn adlewyrchu’r profiad o safbwynt y gweithwyr creadigol, sefydliadau celfyddydol gweledol, amgueddfeydd, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru.
"Gobeithio y bydd manylder y pecyn cymorth yn llywio gwaith yn y dyfodol i herio’r straeon hanesyddol dominyddol a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol Cymru yn ei holl gyfoeth."
Ychwanegodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes a Datblygu Casgliadau Amgueddfa Cymru:
"Mae'r platfform yn rhannu adroddiad gonest o daith y rhaglen gan gyfuno gwaith creadigol, profiadau, gwersi a'r heriau fel y gall eraill eu defnyddio ac adeiladu arnynt. Rydym yn gwybod bod y gwaith yn parhau a gobeithio y bydd y platfform yn cefnogi cysylltiadau a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sector.
"Ein huchelgais hirdymor yw adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau yn well yn ein hamgueddfeydd, ein horielau a'r sector diwylliannol ehangach, gyda rhagor o leisiau a phrofiadau yn siapio ein straeon."
Mae’r wybodaeth ar gael ar wefannau Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru neu ewch yn syth i: pecyn cymorth ar-lein
Safbwynt(iau)
Roedd y rhaglen wedi'i chomisiynu fel ymateb i nodau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Am ddwy flynedd bu 7 gweithiwr creadigol o gefndir amrywiol yn ddiwylliannol ac ethnig yn cydweithio â 7 sefydliad celfyddydol gweledol a'r 7 amgueddfa genedlaethol ledled Cymru i greu cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus, ymyriadau creadigol ac arddangosfeydd. Y 7 gweithiwr creadigol a phartneriaid oedd:
- Jasmine Violet, yn gweithio gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Amgueddfa Lechi Cymru
- Hannan Jones, yn gweithio gydag Artes Mundi ac Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig
- Sophie Mak-Schram, yn gweithio gyda Chapter ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Lal Davies, yn gweithio gydag Artistiaid GS ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Sadia Pineda Hameed, yn gweithio gyda Llantarnam Grange a'r Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru
- Lucille Junkere, yn gweithio gydag Amgueddfa Wlân Cymru
- Nasia Sarwar-Skuse, yn gweithio gyda Ways of Working ac Amgueddfa Werin Sain Ffagan
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Roedd cyfle am luniau a chyfweliad yn Llantarnam Grange, Cwmbrân. Roedd y canlynol ar gael:
Sadia Pineda Hameed a fu'n gweithio gyda Llantarnam Grange a'r Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru
Daniel Trivedy, Cynhyrchydd Creadigol y rhaglen
Sioned Hughes, Pennaeth Hanes a Datblygu Casgliadau yn Amgueddfa Cymru
Nasir Adam, Pennaeth Ymgysylltu Amgueddfa Cymru
Cynrychiolwyr Llantarnam Grange.
Os hoffech rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm Cyfathrebu yng Nghyngor Celfyddydau Cymru: cyfathrebu@celf.cymru neu 07557 868 411.