Newyddion

Canfuwyd 39 eitem, yn dangos tudalen 1 o 4

Pecyn cymorth o fyfyrdodau a gwersi o raglen dau-flwyddyn Safbwynt(iau) a lansiwyd yn Llantarnam Grange.

Ehangu Safbwynt(iau): pecyn cymorth newydd yn rhannu gwersi yn dilyn prosiect i ehangu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig amgueddfeydd ac orielau Cymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth o fyfyrdodau a gwersi o raglen gafodd ei chynllunio i greu newid yn yr ystod o leisiau sy'n prosesu a dehongli hanes Cymru mewn amgueddfeydd ac orielau celf.

WhatsApp Image 2026-07-28 at 14.27.05 (1)

Ffosil a ddarganfuwyd ar draeth Larnog yn helpu i ddatrys dirgelwch 200 mlwydd oed

Mae ffosil a ddarganfuwyd ar Draeth Larnog wedi helpu ymchwilwyr i ddatgelu gwybodaeth newydd am y pysgod a oedd yn nofio yn y moroedd o amgylch Cymru dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Golygfa o du allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth i ymwelwyr fynd at y fynedfa.

Amgueddfa Cymru i arwain cynllun ymchwil cydweithredol gwerth £1.8 miliwn i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i waith yn y sector diwylliant a threftadaeth

Mae Amgueddfa Cymru wedi sicrhau cyllid ar gyfer project ymchwil ochr yn ochr â phedwar sefydliad mawr yng Nghymru i baratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi yn y sector diwylliant a threftadaeth.

Cloc larwm bach crwn efo'r amser ar 9:13am yn erbyn cefndir du

Amgueddfa Cymru yn cadarnhau rhaglen i gofio 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan

Drigain mlynedd ers Trychineb Aberfan, mae Amgueddfa Cymru wedi cadarnhau rhaglen o weithgareddau yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac ar-lein. Bydd y rhaglen yn plethu casgliadau, lleisiau cymunedol, hanesion llafar, adnoddau addysg newydd, mynediad digidol ac ymatebion creadigol er mwyn cofio, myfyrio, a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r drychineb a'i effaith.

Mae'r darn hwn yn dangos un o elynion sydd wedi'i ddal, dwylo wedi'u rhwymo y tu ôl i'w gefn. Mae ganddo wallt cyrliog a gwyneb trist.

Arddangos cerfiadau Rhufeinig am y tro cyntaf – portreadau cynharaf Cymru o bosibl

Bydd dau banel carreg cerfiedig Rhufeinig, portreadau cynharaf Cymru o bosibl, yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Cymru.

Peiriant yn yr Amgueddfa Wlân Cymru.

Amgueddfa Wlân Cymru yn Plethu Traddodiad ac Arloesedd yn y Flwyddyn sy'n Nodi Hanner Canrif ers ei Sefydlu

Wrth i Amgueddfa Wlân Cymru nodi 50 mlynedd o addysgu ac ysbrydoli ymwelwyr, mae'r cyfuniad o grefftwaith traddodiadol, technoleg fodern a chelf gyfoes yn dangos sut mae treftadaeth tecstilau Cymru yn parhau i esblygu tra'n parhau i fod â gwreiddiau cadarn yn ei gorffennol.

Helios at Auckland Arts Festival, New Zealand. Photo (c) Liam Newth (2)-2

Bydd yr Haul yn Dod Allan yfory yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae'r aros drosodd. Mae Helios, gosodwaith saith metr o led o'r Haul, wedi glanio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac o 10am yfory (21 Gorffennaf 2026), gall ymwelwyr brofi'r gwaith celf gan Luke Jerram drwy gydol gwyliau'r haf am ddim.

Casgliad pryfeteg Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru yn sicrhau £1.6m i arwain hwb DiSSCo UK | Gorllewin

Amgueddfa yn rhan o broject mawr i ddatgloi dros 300 mlynedd o ddata bioamrywiaeth

HC VL No3 © Estate of Helen Chadwick. Courtesy Richard Saltoun Gallery-2

ARTIST ROOMS yn dod ag arddangosfa fawr Helen Chadwick i Oriel y Parc

Bydd arddangosfa fawr o waith gan Helen Chadwick, a fydd yn dangos, am y tro cyntaf, ei chyfres Viral Landscapes yn y dirwedd a’i hysbrydolwyd, yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yr haf hwn, gan ddod â chelf gyfoes sy’n adnabyddus yn rhyngwladol i ganol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Teulu yn gwenu wrth baratoi am y Daith Danddaearol yn Big Pit efo un o'r tywyswr

Mwynhewch Daith Danddaearol Big Pit am ddim yr haf hwn

Bydd ymwelwyr â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn gallu mynd ar y Daith Danddaearol am ddim drwy gydol gwyliau haf yr ysgolion eleni, fel rhan o Haf o Hwyl – cyfres o weithgareddau hwyliog, cyfeillgar i deuluoedd ac i bawb eu mwynhau.

Anne Francis - Hero Image

Trysorau o longddrylliad i'w gweld mewn arddangosfa newydd yn Abertawe

Mae arddangosfa o drysor o'r 16eg ganrif gan gynnwys ceiniogau aur o weddillion llong fasnach yr Ann Francis wedi agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.⁠ ⁠

Mae merch ifanc yn sefyll yn yr arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod yn astudio llun Hunan-Bortread gan Gwen John [Tate]

Gwenwch, mai'n ddydd GWENer. Mis i ddathlu pen-blwydd Gwen John yn 150 oed

Dros wythnosau olaf arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod ⁠ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae Amgueddfa Cymru yn cynnig tocynnau am ddim i unrhyw un â'r enw Gwen!