Amgueddfa Wlân Cymru yn Plethu Traddodiad ac Arloesedd yn y Flwyddyn sy'n Nodi Hanner Canrif ers ei Sefydlu
National Wool Museum Weaves Together Tradition and Innovation in 50th Anniversary Year
Wrth i Amgueddfa Wlân Cymru nodi 50 mlynedd o addysgu ac ysbrydoli ymwelwyr, mae'r cyfuniad o grefftwaith traddodiadol, technoleg fodern a chelf gyfoes yn dangos sut mae treftadaeth tecstilau Cymru yn parhau i esblygu tra'n parhau i fod â gwreiddiau cadarn yn ei gorffennol.
Ers dros ganrif, mae pobl wedi defnyddio technegau gwehyddu traddodiadol ar safle hen Felin Cambrian yn Nrefach Felindre, gan gynhyrchu'r carthenni traddodiadol Cymreig sy'n parhau i fod yn symbol parhaol o dreftadaeth tecstilau gyfoethog Cymru. Nawr, wrth i Amgueddfa Wlân Cymru ddathlu 50 mlynedd fel amgueddfa, mae gwŷdd newydd yn cymryd ei le ochr yn ochr â pheiriannau hanesyddol yr Amgueddfa, gan alluogi ymwelwyr i brofi crefftau traddodiadol o safbwynt technoleg fodern.
Mae gwarchod treftadaeth ddiwydiannol Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Amgueddfa Cymru. Ochr yn ochr â gofalu am gasgliadau o bwys cenedlaethol, mae'r Amgueddfa wedi ymrwymo i ddiogelu sgiliau a gwybodaeth y diwydiant gwlân ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wrth barhau i gynnig profiadau deniadol ac ysbrydoledig i ymwelwyr.
Yn 2025, cafodd gwehyddu brethyn dwbl Cymreig, techneg hanesyddol sy'n cael ei warchod a'i rannu yn Amgueddfa Wlân Cymru, ei ychwanegu at Restr Goch Crefftau Treftadaeth o Grefftau mewn Perygl. Yn dilyn prynu gwyddiau hanesyddol gweithredol o Felin Teifi yn 2023, pan ymddeolodd y perchennog Raymond Jones ar ôl gyrfa nodedig o 60 mlynedd, bu staff yr Amgueddfa’n gweithio’n agos gyda Mr Jones i ddysgu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i weithredu’r peiriannau. Sicrhaodd hyn barhad y grefft wrth gynnal profiad melin weithredol unigryw'r Amgueddfa i ymwelwyr.
Fel rhan o'i gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac i nodi'r garreg filltir arwyddocaol hon, mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi buddsoddi mewn gwŷdd cleddyf main modern, a fydd yn eistedd ochr yn ochr â'r gwyddiau hanesyddol. Mae'r ychwanegiad yn gam pwysig wrth ddod â'r Amgueddfa i'r 21ain ganrif, gan gofleidio technoleg gyfoes wrth archwilio themâu gwyddoniaeth, arloesedd a chynaliadwyedd yn y diwydiant tecstilau.
Dywedodd Ann Whittall, Pennaeth Amgueddfa Wlân Cymru:
"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi gallu prynu gwŷdd cleddyf main modern ar gyfer yr Amgueddfa. Mae cadw crefftau traddodiadol yn fyw o bwys mawr i ni ac yn rhan hanfodol o'n rôl fel amgueddfa. Mae'r buddsoddiad hwn yn caniatáu i ni wneud hynny tra hefyd yn ein helpu i ymdopi â'r galw cynyddol am gynhyrchion brethyn traddodiadol Cymreig.
"Drwy ein galluogi i ddangos y dulliau hanesyddol a modern o wehyddu, bydd ymwelwyr yn cael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae'r diwydiant gwlân a thecstilau wedi esblygu dros amser. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr a gwehyddion i barhau â'r rhan bwysig hon o hanes a diwylliant Cymru."
Mae cyflwyno'r gwŷdd newydd yn un o sawl newid y bydd ymwelwyr yn sylwi arno yn ystod blwyddyn pen-blwydd yr Amgueddfa. Mae'r artist Ruth Jên wedi trawsnewid ardal groeso'r Amgueddfa gyda gwaith celf newydd bywiog sy'n dathlu treftadaeth yr Amgueddfa a'i lle amlwg yn Nyffryn Teifi. Mae'r gosodwaith lliwgar yn talu teyrnged i fenywod Cymru mewn gwisgoedd traddodiadol wrth gydnabod cynhyrchiad parhaus yr Amgueddfa o liain Cymreig, crefft sy'n parhau i fod wrth wraidd hunaniaeth yr Amgueddfa.
Mae'r safle wedi bod yn amgueddfa genedlaethol ers 1976 pan oedd un oriel o fewn Melin Cambrian, yn cynnig cipolwg i ymwelwyr ar ddiwydiant gwlân Cymru. Yn 1984, prynodd Amgueddfa Cymru y felin a sefydlu Amgueddfa Wlân Cymru yn swyddogol, gan sicrhau ei dyfodol fel canolfan ar gyfer cadw a rhannu stori treftadaeth tecstilau Cymru.
Ymwelodd Heledd Fychan, Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, ag Amgueddfa Wlân Cymru yn gynharach y mis hwn, a dywedodd:
"Roedd hi'n wych ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru a gweld yn uniongyrchol sut, hanner canrif ar ôl ei sefydlu, y mae'n parhau i adrodd hanes treftadaeth tecstilau Cymru drwy ei chasgliadau o bwysigrwydd cenedlaethol, ei pheiriannau hanesyddol a'i sgiliau traddodiadol. Cefais fy nharo'n arbennig gan y ffordd y mae traddodiad ac arloesedd yn mynd law yn llaw, o'r gwyddiau hanesyddol a achubwyd o Felin Teifi i'r gwŷdd rapier newydd a fydd yn helpu i ateb y galw cynyddol am frethyn Cymreig.
"Mae'n wych bod Amgueddfa Wlân Cymru wedi cofnodi'r cynnydd canrannol mwyaf yn nifer yr ymwelwyr o blith holl atyniadau Cymru y llynedd, gan ddangos y rôl bwysig sydd gan ddiwylliant wrth gefnogi twristiaeth, economïau lleol a balchder cymunedol. Mae buddsoddiad yr amgueddfa mewn gwŷdd newydd hefyd yn dangos sut y gall sgiliau traddodiadol Cymreig gefnogi cyfleoedd economaidd modern, gan helpu i gynnal cymunedau gwledig, cryfhau hunaniaeth ddiwylliannol Cymru a diogelu sgiliau crefft sydd mewn perygl o gael eu colli er budd cenedlaethau'r dyfodol.”
Drwy gydol y flwyddyn hon, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau arbennig. Bydd llwybr newydd yn tywys ymwelwyr drwy'r Amgueddfa, gan archwilio priodweddau unigryw gwlân a hanes y diwydiant. Bydd cyfleoedd hefyd i gwrdd â "Jonny Lewis", cyn-berchennog Melin Cambrian, a ddaw'n fyw trwy brofiad gyda chymeriadau, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft sy'n dathlu'r effaith gadarnhaol y gall creadigrwydd ei chael ar iechyd meddwl a lles.
Ychwanegodd Ann Whittall:
"Rydyn ni'n annog pawb i ddod ac archwilio hanes cyfoethog diwydiant gwlân Cymru, boed yn ymwelwyr sy'n dychwelyd, trigolion lleol, teuluoedd neu'n ymwelwyr am y tro cyntaf. Mae stori gweithwyr y felin a'u crefftwaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ardal hon, gyda'u cynnyrch yn adnabyddus ledled Cymru a thu hwnt.”
Rydyn ni'n annog ymwelwyr sydd â diddordeb mewn dod i ddigwyddiadau penodol i wirio'r wefan am fanylion ac i archebu ymlaen llaw lle bo angen er mwyn osgoi cael eich siomi.
amgueddfa.cymru
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac mae yma i bawb ei fwynhau. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.