ARTIST ROOMS yn dod ag arddangosfa fawr Helen Chadwick i Oriel y Parc
Bydd arddangosfa fawr o waith gan Helen Chadwick, a fydd yn dangos, am y tro cyntaf, ei chyfres Viral Landscapes yn y dirwedd a’i hysbrydolwyd, yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yr haf hwn, gan ddod â chelf gyfoes sy’n adnabyddus yn rhyngwladol i ganol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Bydd Helen Chadwick: Corff a Thirwedd yn cael ei gynnal rhwng 11 Gorffennaf 2026 a 10 Ionawr 2027 ac mae’n cael ei drefnu fel rhan o ARTIST ROOMS, sy’n cyflwyno gwaith artistiaid rhyngwladol mewn arddangosfeydd unigol o gasgliad teithiol cenedlaethol sy’n eiddo ar y cyd i Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban.
Dywedodd Bryony White, Uwch-guradur yn Amgueddfa Cymru: “Roedd Helen Chadwick yn ffigwr gwirioneddol wreiddiol. Trwy ei hymdriniaeth radical ac unigryw o gelf a syniadau, cynhyrchodd gorff o waith sy'n cadw ei berthnasoldeb a'i bŵer, hyd yn oed heddiw. Rydym wrth ein bodd yn cydweithio ag Oriel y Parc i gyflwyno'r arddangosfa hon yn Sir Benfro lle, am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr yn gallu profi a mwynhau rhai o Viral Landscapes Chadwick yn y tirlun a roddodd ysbrydoliaeth iddynt.”
Roedd Chadwick yn un o artistiaid mwyaf radical a dyfeisgar ei hoes, a bu’n gweithio ar gerflunwaith, ffotograffiaeth a gosodwaith, gan ddefnyddio deunyddiau mewn ffyrdd beiddgar ac annisgwyl i ddelio â syniadau am yr hunan, rhywedd, y corff a byd natur.
Bydd yr arddangosfa’n arbennig o arwyddocaol yn Sir Benfro, lle treuliodd Chadwick amser fel artist preswyl ar ddiwedd y 1980au. Ymhlith y gweithiau yn cael eu harddangos bydd darnau o’i chyfres Viral Landscapes, a grëwyd ganddi rhwng 1988 a 1989 yn ystod ei chyfnod preswyl ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Bydd gan yr arddangosfa arloesedd arbennig ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a ysbrydolodd gyfres Viral Landscapes Chadwick. Crëwyd y gyfres rhwng 1988 ac 1989, ar ôl iddi dderbyn comisiwn Artistiaid mewn Parciau Cenedlaethol gan Amgueddfa Victoria ac Albert.
Wrth gerdded Llwybr yr Arfordir rhwng Abergwaun a Chastellmartin, tynnodd lun o fan cyfarfod y tir a’r môr, gan nodi ei effaith bwerus ar ei synhwyrau a’i hymdeimlad o’i hunan. Dyma’r tro cyntaf i’r gweithiau hyn gael eu harddangos yn y dirwedd a’u hysbrydolodd.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gweithiau pwysig fel Piss Flowers, sy’n adlewyrchu ehangder, grym a gwreiddioldeb creadigrwydd Chadwick. Er iddi farw’n sydyn yn 1996 yn 42 oed, mae ei chasgliad toreithiog o waith a’i hymroddiad i addysgu wedi dylanwadu’n fawr ar y genhedlaeth nesaf o artistiaid ym Mhrydain a’r tu hwnt.
Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae gan waith Helen Chadwick gysylltiad cryf â Sir Benfro, ac arbennig iawn yw dod â darnau o’i chyfres Viral Landscapes yn ôl i’r dirwedd a helpodd i’w creu.”
“Mae’r arddangosfa hon yn adlewyrchu cryfder Oriel y Parc fel oriel genedlaethol o bwys, a phwysigrwydd ein partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban. Mae’n rhoi cyfle prin i ymwelwyr brofi celf gyfoes bwysig mewn cysylltiad uniongyrchol ag un o’r tirweddau gwarchodedig mwyaf rhyfeddol yn y DU.”
Bydd arddangosfa Helen Chadwick: Corff a Thirwedd i’w gweld yn Oriel y Parc rhwng 11 Gorffennaf 2026 a 10 Ionawr 2027. Mynediad am ddim.
Nodiadau i olygyddion
ARTIST ROOMS
Mae ARTIST ROOMS yn cyflwyno gwaith artistiaid rhyngwladol mewn arddangosfeydd unigol sydd wedi eu dewis o gasgliadau cenedlaethol sy’n teithio. Mae Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban yn gydberchnogion ar ARTIST ROOMS. Mae’r rhaglen yn cyrraedd cynulleidfaoedd ledled y DU ac yn cael ei datblygu drwy bartneriaethau lleol. Mae ARTIST ROOMS yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn prosiectau creadigol, dysgu mwy am gelf ac artistiaid, a magu sgiliau newydd. Ers 2009, mae tua 220 o arddangosfeydd wedi cael eu dangos mewn bron i 100 o amgueddfeydd ac orielau ledled y DU, gyda 60 miliwn o ymwelwyr.
Mae rhaglen a chasgliad ARTIST ROOMS yn cael ei rheoli gan Tate ac Orielau Genedlaethol yr Alban, gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf, Sefydliad Henry Moore ac arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a Creative Scotland. Sefydlwyd ei gasgliad sefydlol drwy Rodd d’Offay yn 2008 gyda chymorth Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf a Llywodraethau’r Alban a Phrydain.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.nationalgalleries.org/artistrooms | www.tate.org.uk/artist-rooms | www.artistrooms.org | #ARTISTROOMS
CRONFA GELF
Y Gronfa Gelf yw’r elusen genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd ac orielau. Ers dros 120 o flynyddoedd, mae’r gronfa wedi helpu amgueddfeydd ac orielau ledled y DU i ddatblygu a rhannu eu casgliadau, buddsoddi mewn pobl ac arbenigeddau, tyfu eu cynulleidfaoedd ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Mae’r Gronfa Gelf yn cysylltu amgueddfeydd a phobl â chelf a diwylliant gwych drwy gyllid, eiriolaeth a mentrau, oherwydd mae mynediad at gelf yn hanfodol ar gyfer cymdeithas iach. Mae’n hyrwyddo’r sector drwy Wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf, sef gwobr amgueddfeydd fwyaf y byd, ac mae’n cefnogi gweithwyr amgueddfeydd proffesiynol drwy raglenni hyfforddi a grantiau pwrpasol.
Mae’r Gronfa Gelf, sy’n annibynnol ac yn cael ei phweru gan bobl, yn cael ei chefnogi gan 142,000 o aelodau sy’n prynu Tocyn Celf Cenedlaethol, yn ogystal â chyfraniadau hael gan unigolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae’r Tocyn Celf Cenedlaethol yn cynnig mynediad am ddim neu am bris gostyngol i gannoedd o amgueddfeydd, orielau a mannau hanesyddol yn y DU, 50% oddi ar arddangosfeydd mawr, tanysgrifiad i’r cylchgrawn Art Quarterly a chylchlythyr Art In Your Inbox.
www.artfund.org
SEFYDLIAD HENRY MOORE
Sefydlwyd Sefydliad Henry Moore gan yr artist a’i deulu ym 1977 i annog y cyhoedd i werthfawrogi’r celfyddydau gweledol. Heddiw rydym yn cefnogi prosiectau cerflunio arloesol, yn dyfeisio rhaglen lawn dychymyg o arddangosfeydd ac ymchwil ledled y byd, ac yn cadw gwaddol Moore ei hun: un o gerflunwyr mawr yr 20fed ganrif, a wnaeth gymaint i ehangu gynulleidfa’r ffurf gelfyddydol.
henry-moore.org
CYNGOR CELFYDDYDAU LLOEGR
Cyngor Celfyddydau Lloegr yw’r asiantaeth ddatblygiad genedlaethol ar gyfer creadigrwydd a diwylliant. Rydym wedi nodi ein gweledigaeth strategol yn Let’s Create, sef ein bod eisiau i Loegr fod yn wlad lle mae creadigrwydd pob un ohonom yn cael ei werthfawrogi ac yn cael cyfle i ffynnu, a lle mae pawb ohonom yn cael mynediad at amrywiaeth rhyfeddol o brofiadau diwylliannol o ansawdd uchel, erbyn 2030. Rydym yn buddsoddi arian cyhoeddus gan y Llywodraeth a’r Loteri Genedlaethol i helpu i gefnogi’r sector ac i gyflawni’r weledigaeth hon.
www.artscouncil.org.uk
CREATIVE SCOTLAND
Creative Scotland yw’r corff cyhoeddus sy’n cefnogi diwylliant a chreadigrwydd ledled yr Alban, gan ddosbarthu cyllid a ddarperir gan Lywodraeth yr Alban a’r Loteri Genedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn creativescotland.com.. Dilynwch Creative Scotland ar Facebook, LinkedIn ac Instagram.
AMGUEDDFA CYMRU
Mae Amgueddfa Cymru’n perthyn i bawb, ac mae yma i bawb ei mwynhau. Rydym yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru. Ein nod yw bod yn oleufa ddiwylliannol i Gymru ar lwyfan y byd, ac ysbrydoli pawb i ddysgu ac i fwynhau drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Mae croeso i bawb ymweld â ni am ddim, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r croeso hwnnw’n ymestyn i bobl o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Byddwch yn rhan o stori Cymru: drwy ymweld, gwirfoddoli, ymaelodi neu gyfrannu. www.amgueddfa.cymru