Cloc larwm bach crwn efo'r amser ar 9:13am yn erbyn cefndir du

Amgueddfa Cymru yn cadarnhau rhaglen i gofio 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan

Museum confirms programme to commemorate 60th anniversary of the Aberfan Disaster

Rhannu:

Drigain mlynedd ers Trychineb Aberfan, mae Amgueddfa Cymru wedi cadarnhau rhaglen o weithgareddau yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac ar-lein. Bydd y rhaglen yn plethu casgliadau, lleisiau cymunedol, hanesion llafar, adnoddau addysg newydd, mynediad digidol ac ymatebion creadigol er mwyn cofio, myfyrio, a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r drychineb a'i effaith.

Bydd Aberfan 60 yn cynnwys arddangosiadau yn Big Pit a Sain Ffagan, fydd ar agor i'r cyhoedd o 1 Hydref. Yn Sain Ffagan, bydd gwrthrychau newydd yn cael eu hychwanegu at yr adran yn oriel Cymru... sy'n coffau'r digwyddiad yn barod. Yn Big Pit bydd arddangosiad newydd yn llawn gwrthrychau personol, atgofion, a hanesion llafar wedi'u casglu gyda'r cymunedau gafodd eu heffeithio – rhai'n cael eu dangos am y tro cyntaf erioed.

Ar ôl caffael ffotograffau ac adroddiadau rai degawdau yn ôl, dyma Amgueddfa Cymru yn caffael eu gwrthrych cyntaf yn 2022 pan roddodd Mike Flynn gloc oedd wedi bod yng ngofal ei Dad, un o'r achubwyr ar y diwrnod. Mae'r cloc yn bwysig am ei fod wedi stopio am 9.13 - amser y drychineb. Mae wedi cael ei arddangos yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ers 2022.

Ers rhoi'r cloc, mae rhagor o eitemau wedi dod i ofal Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Beibl gafodd ei gasglu o dŷ ar Moy Road; doliau Eryl Mai Jones a Norma Mumford, dwy ferch gafodd eu ladd yn y drychineb; a llythyrau'n cydymdeimlo gan blant ac athrawon o Santa Rosa, California yn yr wythnosau'n dilyn.

Yn ddiweddar cafodd eitemau personol Carl a Marylyn Minett, brawd a chwaer gafodd eu lladd ar y diwrnod, eu rhoi gan y teulu. Cafodd eu chwaer, Gaynor, ei hachub o'r ysgol ar y diwrnod. Mae'r Amgueddfa yn gobeithio casglu a chadw rhagor o eitemau, er mwyn adrodd hanes un o drychinebau gwaethaf Cymru a chadw'r atgof yn fyw er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Ceri Thompson, Uwch Guradur Glo Amgueddfa Cymru:

"Mae Aberfan yn foment bwysig yn hanes y Gymru fodern ac yn drasiedi bersonol i gymaint o bobl. Fel Amgueddfa rydyn ni'n nodi'r garreg filltir drwy rannu eitemau o'r casgliad er mwy cofio a myfyrio ar y golled, ond hefyd yn rhoi mynediad i adnoddau a dulliau i bobl ddysgu mwy am yr amgylchiadau a'r cyd-destun cymdeithasol ehangach."

Mae hanesion llafar wedi cael eu recordio a'u casglu hefyd, gyda nifer yn canolbwyntio ar yr ymdrech achub yn dilyn y drychineb. Tyrrodd cannoedd o bobl i Aberfan i helpu, gan gynnwys timau achub glofa, Ambiwlans Sant Ioan, y Groes Goch Brydeinig, Byddin yr Iachawdwriaeth, aelodau o'r lluoedd arfog, heb sôn am y cwmnïau lleol.

Ceri Thompson eto:

"Daeth pobol i Aberfan o bell ac agos i helpu gyda'r ymdrech achub - sy'n dangos yr effaith gafodd y drychineb ar bobl ym mhob cwr o Gymru a'r byd. Mae hyn yn rhan allweddol o'r stori. Yn ogystal â dogfennu a chofio'r drychineb ei hun, mae'n bwysig cofio'r don o dosturi, cymorth, a chefnogaeth i'r gymuned."

Ar ôl gwneud cais am ymateb creadigol i'r cofio, mae CELF wedi comisiynu pedwar artist i greu gweithiau wedi’u hysbrydoli gan wrthrychau a gweithiau celf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Mae’r cynigion yn cynnwys celf cyfrwng cymysg, gwau papur, a ffeithlen greadigol a bydd CELF nawr yn cefnogi’r artistiaid i ddatblygu eu syniadau. Bydd y gweithiau terfynol yn cael eu dangos ar-lein fel rhan o raglen ehangach Aberfan 60.

Yn ogystal â'r casgliadau, mae Amgueddfa Cymru’n datblygu adnoddau addysg newydd i gefnogi ysgolion i adrodd hanes Aberfan, gan osod yr hanes sensitif yng nghyd-destun ehangach treftadaeth ddiwydiannol Cymru a'r meysydd glo. Datblygwyd yr adnoddau hyn yn ofalus gan dîm Addysg yr Amgueddfa, sydd wedi cydweithio gydag amgueddfeydd eraill i rannu arbenigedd a gwersi o adnoddau tebyg am drychinebau a digwyddiadau o bwys cenedlaethol eraill.

Bydd y rhaglen gyfan ar gael ar dudalen ar-lein arbennig, gyda mynediad at gasgliadau, adnoddau addysg, ymatebion creadigol, a rhagor o wybodaeth am Aberfan. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad hirdymor Amgueddfa Cymru i gasglu, cadw, a rhannu deunydd yn ymwneud ag Aberfan er budd addysg, ymchwil a myfyrio yn y dyfodol.

Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes a Datblygu Casgliadau Amgueddfa Cymru:

"Mae Aberfan yn parhau yn elfen bwysig a dirdynnol o hanes Cymru. Drwy barhau i gasglu gwrthrychau a hanesion llafar, a datblygu adnoddau addysg newydd ac ymatebion creadigol, bydd y rhaglen yn ein helpu i gofio, myfyrio, a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r drychineb, a sicrhau bod y cof am Aberfan yn cael ei gadw a'i rannu gyda chenedlaethau'r dyfodol."

Mae rhagor o wybodaeth am Aberfan 60 ar gael yn: https://amgueddfa.cymru/aberfan60

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth a delweddau, cysylltwch â:

Rachel Bowyer
Arweinydd Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
029 2057 3614
rachel.bowyer@amgueddfacymru.ac.uk
⁠cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk 

Os gwelwch yn dda caniatewch o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd ar gyfer unrhyw geisiadau delwedd ychwanegol. Bydd unrhyw geisiadau yn cael eu hystyried yn ofalus oherwydd eu natur sensitif.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. ⁠ Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. 

Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. 

Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru

CELF yw’r oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru, sy’n dod â chasgliad cenedlaethol o gelf gyfoes at bobl Cymru a thu hwnt, trwy rwydwaith cydweithredol o bartneriaid a llwyfan digidol, celfarycyd.cymru

Mae CELF yn ehangu mynediad at gasgliad celf gyfoes y genedl trwy arddangosfeydd, benthyciadau, digwyddiadau, cyfleoedd dysgu a chomisiynau.

Noddir CELF gan Lywodraeth Cymru.

Mae CELF yn bartneriaith rhwng:

  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
  • Amgueddfa Cymru
  • Canolfan Grefft Rhuthun
  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Mostyn, Llandudno
  • Oriel Davies, Y Drenewydd
  • Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
  • Oriel Myrddin, Caerfyrddin
  • Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog
  • Storiel, Bangor

celfarycyd.cymru             @celfarycyd