Golygfa o du allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth i ymwelwyr fynd at y fynedfa.

Amgueddfa Cymru i arwain cynllun ymchwil cydweithredol gwerth £1.8 miliwn i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i waith yn y sector diwylliant a threftadaeth

Amgueddfa Cymru to lead in £1.8m collaborative research scheme to help students find work in the culture and heritage sector

Rhannu:

Mae Amgueddfa Cymru wedi sicrhau cyllid ar gyfer project ymchwil ochr yn ochr â phedwar sefydliad mawr yng Nghymru i baratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi yn y sector diwylliant a threftadaeth.

Mae’r Dyfarniad Tirwedd Doethurol Cydweithredol, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), yn cynrychioli buddsoddiad o dros £1.8 miliwn, a bydd yn gwahodd 18 o fyfyrwyr PhD i weithio mewn cydweithrediad â phartneriaid prifysgol ledled Cymru a gwledydd Prydain dros gyfnod o bedair blynedd.

Amgueddfa Cymru fydd arweinydd y consortiwm ar gyfer y cynllun ariannu newydd, mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).

Bydd y cynllun yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio cwestiynau am ddiwylliant a hunaniaeth Cymru, drwy ddod â chasgliadau ac adnoddau pump o’r sefydliadau diwylliant a threftadaeth mwyaf yng Nghymru ynghyd. Gyda 12 canolfan ymchwil, bydd modd i’r myfyrwyr ddatgloi ac adrodd straeon newydd am y gorffennol, archwilio ei effaith ar fywyd Cymru heddiw, ac archwilio beth allai bod yn Gymro neu Gymraes yn y dyfodol ei olygu.

Bydd y bartneriaeth yn blaenoriaethu’r meysydd ymchwil canlynol:

  • Cynrychiolaeth i bawb: sut allwn ni ddehongli casgliadau ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd i adrodd straeon newydd ac ail-adrodd straeon cyfarwydd drwy leisiau newydd?
  • Llefydd iach: sut gall treftadaeth ddiwylliannol gefnogi pobl, llefydd a natur i ffynnu?
  • Mynediad digidol at gasgliadau: sut gall offer a dulliau digidol wella trefniadau creu, hygyrchedd ac argaeledd data a chasgliadau, yn ogystal â’u dehongliad a’r mathau o straeon a adroddir?
  • Cadwraeth: sut allwn ni reoli penderfyniadau am gadwraeth yng nghyd-destun ehangu cyfranogiad a defnydd o gasgliadau, addasu i newid hinsawdd a newid i faint y dirwedd?

Mae myfyrwyr sy’n astudio ysgoloriaeth debyg – y Cynllun Partneriaeth Doethurol Cydweithredol, yn ymdrin ag ystod o bynciau. Mae Elise Unwin, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn, yn edrych ar hanes mwy diweddar, gyda’i hymchwil yn canolbwyntio ar gasglu deunydd archif Covid yn Amgueddfa Cymru.

Meddai Elise Unwin:

"Y rhan fwyaf cyffrous o fy ymchwil hyd yn hyn yw gwahodd cyfranwyr gwreiddiol i’r archif i gymryd rhan mewn cyfweliadau hanes llafar, gan siarad am yr hyn maen nhw’n ei gofio o’r cyfnodau clo o’i gymharu â sut roedden nhw’n teimlo ar y pryd. Rydyn ni wedi siarad â menyw oedd yn feichiog yn ystod y cyfnod clo, ffoadur, nyrs gofal dwys – cymysgedd o bobl â phrofiad amrywiol o’r pandemig.

‘Rydw i wedi darganfod bod siarad amdano yn y presennol yn helpu pobl i brosesu eu hemosiynau nawr. Mae gwneud yr ymchwil yma hefyd yn dangos sut gallwn ni ddefnyddio amgueddfeydd a threftadaeth i helpu iechyd meddwl a lles pobl. Mae’r gwaith yma’n bwysig oherwydd ei fod yn gofnod o ystod amrywiol o brofiadau o’r cyfnod clo ledled Cymru y bydd cenedlaethau’r dyfodol hefyd yn gallu dysgu ohonynt. Mae’r Cynllun Partneriaeth Doethurol Cydweithredol yma yn Amgueddfa Cymru yn gwneud i fi deimlo fy mod i wir yn gallu cyfrannu at gyfnod hollbwysig yn ein hanes a’n gwybodaeth academaidd."

Yn y cyfamser, cwblhaodd Dr Christopher Griffiths ei ymchwil PhD yn 2025, gan ganolbwyntio ar arferion casglu nwyddau yn yr Oes Efydd yn ne-ddwyrain a de-orllewin Cymru. Roedd ei ymchwil wedi’i seilio ar waith maes cydweithredol, gan weithio’n agos gyda chwilotwyr metel a thirfeddianwyr i gyd-gynhyrchu gwybodaeth archaeolegol.

Meddai Dr Christopher Griffiths:

"Caniataodd yr ysgoloriaeth yma i fi ganolbwyntio ar y pwnc rwy’n ei fwynhau ond hefyd archwilio llwybrau newydd a dewisiadau gyrfa posib. Roedd yn gyfle perffaith i ymchwilio i’r pwnc yma’n fanylach a chael mwy o brofiad ar ochr guradurol y gwaith hefyd, er enghraifft, catalogio a derbyn eitemau.

"Rydw i bellach yn guradur archaeoleg yn Amgueddfa Manceinion, ar ôl dechrau yno haf y llynedd. Rwy’n gwybod na fydden i byth wedi gallu cael y swydd honno heb y profiad a gefais o wneud y bartneriaeth ddoethurol gydweithredol yma."

Ychwanegodd Dr Jenny Geroni, Pennaeth Ymchwil Amgueddfa Cymru:

"Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am y Dyfarniad Tirwedd Doethurol Cydweithredol. Mae hwn yn gamp arwyddocaol sy’n dod â phump o sefydliadau diwylliannol mwyaf Cymru ynghyd i ddyfnhau ein dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

"Un o’n blaenoriaethau cyffredin yw archwilio ffyrdd newydd o ddehongli casgliadau ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd, gan ein galluogi i adrodd straeon newydd ac ail-archwilio straeon cyfarwydd drwy safbwyntiau a lleisiau amrywiol. Mae’r dyfarniad hwn yn gyfle cyffrous i’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r cynllun, ond hefyd i Gymru a chenedlaethau’r dyfodol a fydd yn elwa o’r ymchwil."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Ynglŷn â’r Dyfarniad Tirwedd Doethurol Cydweithredol gan AHRC

  • Bydd y consortiwm (Y Gerddi Botaneg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, CBHC), o dan arweiniad Amgueddfa Cymru, yn dyfarnu 18 ysgoloriaeth ymchwil PhD dros bedair blynedd.
  • Bydd y galwadau ariannu yn digwydd yn haf 2026, 2027, 2028 a 2029 ar gyfer projectau sy’n dechrau ym mis Hydref 2027, 2028, 2029 a 2030.
  • Bydd pob ysgoloriaeth yn darparu’r canlynol i fyfyrwyr gyflwyno eu traethawd ymchwil o fewn y cyfnod a ariennir:
  • - Lwfans cynhaliaeth a ffioedd dysgu yn seiliedig ar UKRI (cyfraddau cartref).
  • - Cymorth ar gyfer costau sy’n gysylltiedig ag ymchwil.
  • - Cyfleoedd ar gyfer ymchwil doethuriaeth llawn amser neu ran-amser.
  • - Bydd dyfarniadau llawn amser yn para 3.5 blynedd, gyda hyblygrwydd i ymestyn hyd at bedair blynedd i gefnogi cyfleoedd datblygu unigol i fyfyrwyr fel lleoliadau, hyfforddiant neu ddatblygu sgiliau ychwanegol.
  • - Cynigir dyfarniadau rhan-amser ar sail pro-rata.
  • Dyfernir yr ysgoloriaeth drwy broses ddethol gystadleuol.
  • Mae’r cyfnod mynegi diddordeb bellach ar agor a bydd yn cau ddydd Gwener, 9 Hydref 2026.
  • I ddysgu mwy, ewch draw i wefan Amgueddfa Cymru – Hyfforddiant doethurol yn Amgueddfa Cymru | Amgueddfa Cymru.

Dyfyniadau ychwanegol am y Cynllun Partneriaeth Doethurol Cydweithredol

Meddai Elinor Gwynn, myfyrwraig blwyddyn gyntaf sy’n astudio hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru rhwng 1840 a 1948:

"Mae’r Cynllun Partneriaeth Doethurol Cydweithredol yn gyfle prin a chyfoethog i archwilio archifau gwahanol sefydliadau partner i ddatgelu gwybodaeth a phlanhigion meddyginiaethol newydd, ac i ddatgelu gwahanol ffyrdd o ddeall ein ffyrdd o fyw.

"Mae’n bwnc sydd wedi fy niddori ers fy mhlentyndod. Alla i ddim aros i ddatgelu a rhannu straeon am hanes llysieuaeth feddygol yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae cael cefnogaeth nifer o sefydliadau treftadaeth ac academaidd i archwilio’r cysylltiadau lleol a byd-eang rhwng pobl a phlanhigion yn amhrisiadwy."

Meddai Keshlan Padayachee, myfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n astudio hanes drefedigaethol y Rhufeiniaid yn ne-ddwyrain Cymru:

"Mae’r ysgoloriaeth ymchwil yma’n rhoi’r lle i fi ailystyried Cymru’r Oes Rufeinig y tu hwnt i fframweithiau trefedigaethol etifeddol ac i ystyried sut y gallai archaeoleg ail-siapio dychymyg diwylliannol Cymru a’r dyfodol mae’n ei wneud yn bosib."