Trysorau o longddrylliad i'w gweld mewn arddangosfa newydd yn Abertawe
Mae arddangosfa o drysor o'r 16eg ganrif gan gynnwys ceiniogau aur o weddillion llong fasnach yr Ann Francis wedi agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
I'w gweld yn gyhoeddus am y tro cyntaf, mae'r darganfyddiad yn adrodd stori ddramatig trysor a gollwyd ac a ganfuwyd ganrifoedd wedi hynny.
Cafodd yr Ann Francis ei dal mewn storm ffyrnig a'i chwythu oddi ar ei chwrs ar noson 28 Rhagfyr 1583 wrth ddychwelyd o Sbaen. Roedd perchennog y llong, Francis Shaxton o Kings Lynn, wedi anfon llond llong o rawn i Sbaen – oedd yn gargo gwerthfawr – ac roedd bellach wedi colli ei long a'r taliad am y cargo.
Cafodd y llong ei dryllio ar draeth Margam. Peter Hughes sydd wedi darganfod y rhan fwyaf o'r celc anhygoel dros gyfnod o 21 mlynedd. Wedi i stormydd chwythu'r tywod oedd yn cuddio'r trysor disglair o'r 16eg ganrif i ffwrdd, dechreuodd Peter ganfod ceiniogau gyda'i synhwyrydd metel.
Ymhlith y canfyddiadau sydd i'w gweld mae sawl ceiniog aur hanesyddol o deyrnasiad Ferdinand ac Isabella o Sbaen, chwiban y Badfeistr, a chlo cyfuniad diddorol o un o'r cistiau pren. Roedd cyfuniad y clo yn gyfrinach, ac mae'n ddirgelwch hyd heddiw.
Meddai Alastair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru:
"Wrth gwrs, mae'r darnau arian a'r arteffactau yn anhygoel, ond maen nhw hefyd yn cyd-fynd â chyfoeth o gofnodion cyfoes sy'n adrodd straeon am forwyr, ysbeiliwyr, arglwyddi, smyglwr a hyd yn oed menyw sydd wedi'i chyhuddo o fod yn wrach. Dyma gasgliad hynod o straeon a gwrthrychau, ac mae'n wych bod Amgueddfa Cymru yn cael eu harddangos."
Meddai Nicole Deufel, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:
"Mae'n bleser gennym arddangos celc anhygoel yr Ann Francis yn gyhoeddus am y tro cyntaf.
"Wrth i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau barhau ar ei thaith o ailddatblygu, mae'r casgliad gwych hwn o wrthrychau yn ychwanegiad addas at ein harddangosfeydd wrth i ni symud tuag at ganolbwyntio ar adrodd straeon Cymru a'i chysylltiadau a'i pherthynas â'r môr. Rydyn ni'n edrych ymlaen at roi'r cyfle i'n hymwelwyr ddarganfod mwy am y trysor hanesyddol arwyddocaol hwn a ddarganfuwyd ar lannau Cymru."
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Mae casgliad Ann Francis yn ddarn rhyfeddol o hanes Cymru - trysor a fu ar goll ar y môr ers dros bedair canrif, ac sydd o’r diwedd yn cael ei arddangos i bawb ei fwynhau. Mae'r buddsoddiad hwn gan Amgueddfa Cymru yn helpu i ddod â'r casgliad anhygoel hwn yn fyw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
"Mae'r amrywiaeth o arteffactau yn adrodd stori fywiog am Gymru a'i chysylltiadau dwfn â'r môr. Rwy'n gobeithio y bydd ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod i Abertawe i weld yr arddangosfa wych hon - sydd i’w gweld am ddim - drostynt eu hunain."
Bydd arddangosfa Trysorau’r Tonnau ar agor i'r cyhoedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o 26 Mehefin 2026 ymlaen.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Cyswllt y Wasg
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Dafydd Llyr Newton-Evans
Swyddog Cyfathrebu Marchnata, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
029 2057 3637
dafydd.newton-evans@amgueddfacymru.ac.uk
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook.