Trysor Rhufeinig prin wedi'i ddarganfod wrth gloddio yng Ngheredigion
Mae dau ingot plwm a ddarganfuwyd gan bobl gyda datgelyddion metel yng Ngheredigion sy'n dyddio'n ôl bron i 2,000 o flynyddoedd wedi'u datgan yn drysor.
Y ddau ingot plwm Rhufeinig hyn yw'r cyntaf o'u math i'w canfod yng ngorllewin Cymru, sy'n golygu eu bod o arwyddocâd hanesyddol. Ar ben hynny, mae hyn yn dystiolaeth bod plwm yr ardal wedi cael ei gloddio yn y cyfnod Rhufeinig a bod hyn wedi digwydd ychydig mwy na degawd ar ôl y concwest olaf yn yr ardal yng nghanol OC 70au.
Daeth Nick Yallope a Peter Nicolas o hyd i'r trysor wedi iddynt gael caniatâd i gloddio ar y tir gan y perchennog. Roedden nhw’n hapus iawn gyda'r darganfyddiad.
Dywedodd Nick Yallope:
‘Rwy’n teimlo’n hynod falch o fod wedi darganfod rhywbeth mor brin a phwysig i’n treftadaeth leol. Mae datgloi pennod newydd o hanes ein hardal yn hynod gyffrous.’
Ychwanegodd Peter Nicolas:
‘Rwy’n ceisio achub hanes ar gyfer y gymuned leol a chenedlaethau’r dyfodol. Ac rydw ’'n hapus iawn i roi’r pethau rydw i’n eu darganfod i’r amgueddfa leol i eraill gael eu profi a’u mwynhau.’
Cafwyd hyd i'r trysor ar dir pori sy'n eiddo i'r ffermwr lleol Geraint Jenkins, 20 modfedd o dan y ddaear a llai na dau fetr oddi wrth ei gilydd.
Dywedodd Geraint Jenkins, perchennog y tir:
‘Roedden ni wedi synnu pan ddaeth dau unigolyn lleol gyda datgelyddion metel â’r darganfyddiad hwn i’n sylw, sef Nick a Peter, sydd â chaniatâd i chwilio ar ein tir. Mae ingotau Rhufeinig yn eithriadol o brin ac yn cynrychioli cysylltiad pendant â gorffennol diwydiannol Rhufeinig Cymru.
‘Ein blaenoriaeth yw bod y darganfyddiad yn cael ei drin mewn modd cyfrifol fel bod ei werth hanesyddol, diwylliannol a chynhenid llawn yn cael ei ddeall a'i gydnabod yn iawn. Mae'n rhyfeddol meddwl bod tir rydyn ni'n ei ffermio'n organig nawr wedi chwarae rhan mewn tirwedd Rufeinig llawer ehangach ar un adeg.’
Nawr bod y darganfyddiadau hyn wedi'u datgan yn drysor, y gobaith yw y bydd modd eu harddangos mewn amgueddfa leol i bawb gael eu gweld.
Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion:
‘Rydyn ni'n llawn cyffro am y posibilrwydd o gaffael y gwrthrychau rhyfeddol hyn. Roedd dyddodion mwynau cyfoethog Ceredigion yn un o'r prif resymau pam y ceisiodd y Rhufeiniaid goncro'r ardal hon. Byddai plwm a oedd yn cael ei gloddio yma yn teithio ar hyd a lled yr Ymerodraeth Rufeinig, ac mae'r ingotau hyn yn tynnu sylw at arwyddocâd Ceredigion wrth adeiladu ymerodraeth yr Ymerawdwr Domitian Caesar Augustus. Rydyn ni'n bwriadu rhannu’r stori hon yn ein horiel archaeoleg newydd, a fydd yn agor yn 2027, felly mae amseriad y darganfyddiad hwn yn berffaith.’
Mae angen cael caniatâd cyn mynd ar dir preifat ac mae angen rhoi gwybod am unrhyw beth rydych chi'n ei ddarganfod ar y tir yr ydych yn credu ei fod yn drysor angen gael ei riportio i’r Cynllun Henebion Cludadwy (PAS Cymru).
Nodiadau i olygyddion
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. www.amgueddfa.cymru