‘Tom Bones’ yw’r enw buddugol ar gyfer Mamoth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ar ôl wythnos o bleidleisio lle ymwelodd dros 18,000 o bobl â'r Amgueddfa i fwrw eu pleidlais, mae'r enw buddugol bellach wedi'i gadarnhau
EMBARGO: 00:01 Dydd Mercher 12 Tachwedd
Nid yw'n anarferol ymweld ag amgueddfa a sefyll yng nghanol y brif neuadd gyda'r awydd i dynnu llun gyda chreadur cynhanesyddol. Am yr wyth mis diwethaf, mae miloedd o bobl wedi gwneud yn union hynny yn yr Amgueddfa, ac, o'r diwedd, mae gan y Mamoth enw, sef Tom Bones.
Roedd mamothiaid fel Tom ar un adeg yn byw ac yn bod yng Nghymru fach, ac er iddo gael ei ddarganfod dros Glawdd Offa yn Swydd Amwythig, mae Twm wedi gwneud yn union yr hyn a ganodd Syr Tom Jones amdano ym 1967 drwy ddatgan ei fod e’n dod adref i Gymru, ac yn benodol i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Yn ystod y broses enwi, derbyniodd yr Amgueddfa dros 1400 o awgrymiadau. Profodd y ddau enw arall ar y rhestr fer – Macsen a Morus – yn boblogaidd gyda phleidleiswyr yn ystod hanner tymor hefyd, ond yn y pen draw cawsant eu trechu gan Tom Bones.
Ymhlith y ceisiadau nodedig a awgrymwyd gan y cyhoedd nad oeddent yn y tri olaf roedd: Bendigeidfran, Merlin the Mammoth, Tusks, BFM (Big Friendly Mammoth), Sir Tusk-A-lot ac – wrth gwrs – Mammoth McMammoth Face.
Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:
“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu rhoi enw i’n preswylydd newydd o’r diwedd. Roedd yn anodd lleihau’r ceisiadau i dri, ond rwy’n falch iawn bod ein hymgyrch wedi llwyddo i ddal dychymyg y cyhoedd a bod yr enw wedi’i ddewis yn y pen draw gan ein hymwelwyr. Diolch o galon i bawb a gyflwynodd awgrymiadau ac a ymwelodd â’r amgueddfa yn ystod hanner tymor i fwrw ei bleidlais.
“Er bod Tom yn rhan o deulu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae wir yn teimlo fel ffrind i ni i gyd. Rydym yn gyffrous i groesawu cymaint ohonoch chi â phosibl i gael eich llun wedi’i dynnu gyda’n heicon newydd, Tom Bones.”
Felly, os yw hi'n oer y tu allan y gaeaf hwn, beth am alw heibio i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a chael eich llun wedi'i dynnu gyda sgerbwd mwyaf enwog Cymru.
Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltiadau cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery. Yn ogystal â’r Mamoth, mae’n cynnwys arddangosfeydd cyfredol eraill Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan gynnwys Hip Hop: Stori Cymru.
Nodiadau i olygyddion
- Roedd y mamothiaid yn byw ochr yn ochr â phobl (Homo sapiens a Neanderthal), ac roedd pobl yn eu hela er mwyn bwyta'r cig a defnyddio'r ffwr ar gyfer dillad a chytiau.
- Ym Mhrydain adeg y mamothiaid, roedd yna hefyd rinoseros blewog, cawrgeirw, udfilod, eirth ogof a cheffylau.
- Roedd y mamoth blewog yn un o nifer o wahanol fathau o famoth oedd yn fyw yn y gorffennol, ac roedd rhywogaeth wahanol yn byw yng Ngogledd America.
- Roedd mamothiaid blewog tua 3.5m o daldra.
- Roedd ysgithrau'r mamoth blewog yn troelli ychydig.
- Roedd rhaid i famothiaid blewog fwyta hyd at 180kg o blanhigion y dydd, gan dreulio hyd at 20 awr y dydd yn pori.
- Cafodd y mamoth ei wneud drwy greu sgan 3D o'r sgerbwd sydd i'w weld yn y Ganolfan Ddarganfod yn Craven Arms, Swydd Amwythig.
- Cafodd yr esgyrn a'r ysgrithrau eu printio mewn 3D a'u paentio i edrych fel esgyrn.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni'n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi'u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.