2024 09 07 NMW Gwyl bwyd 2066-2

Safleoedd Amgueddfa Cymru ymhlith atyniadau mwyaf poblogaidd y wlad

Rhannu:

Mae'r cyhoedd wedi bod yn tyrru safleoedd Amgueddfa Cymru gan ein codi i frig yr atyniadau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. 

Sain Ffagan, unwaith eto, yw atyniad mwyaf poblogaidd y wlad tra bod Amgueddfa Wlân Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf o ymwelwyr fesul canran. Yn ôl ffigyrau diweddaraf ALVA, fe groesawodd yr Amgueddfa Wlân yn Nhrefach Felindre, Sir Gâr, 22% yn fwy o ymwelwyr (24,915) yn 2025 na'r flwyddyn flaenorol. Daw'r newyddion ar foment bwysig i'r Amgueddfa, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant yn 2026. 

Dros hanner canrif mae'r Amgueddfa wedi bod yn allweddol yn cadw a chyflwyno hanes cyfoethog a chymleth diwydiant gwlân Cymru, oedd yn rhan annatod o gymdeithas, tirwedd ac economi'r wlad o'r Oesoedd Canol tan y 19eg ganrif. 

Yn ddiweddar mae'r Amgueddfa wedi ailagor ei Sied Wehyddu, lle mae crefftwyr yn dal i gynhyrchu lliain traddodiadol a blancedi brethyn dwbl prydferth gan feithrin a rhannu'r sgiliau sy'n allweddol i gynhyrchu'r defnydd terfynol. 

Fe groesawodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru 570,207 o ymwelwyr yn 2025, gan gadw'i lle fel atyniad mwyaf poblogaidd Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ôl ffigurau ALVA. 

Ers 1948, mae adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau ac o bob cwr o Gymru wedi'u hail-adeiladu yn yr amgueddfa awyr agored, gan gynnwys tai, fferm, ysgol, capel, ac un o'r adeiladau diweddaraf yw tafarn hynaf Caerdydd, Gwesty'r Vulcan. 

Yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i lawer yw Gŵyl Fwyd Sain Ffagan, sy'n croesawu dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft dros benwythnos yn yr haf lle gall ymwelwyr fwynhau ymhlith yr adeiladau hanesyddol. 

Gerllaw yn y brifddinas mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn parhau'n boblogaidd, gyda 356,021 o ymwelwyr yn 2025 yn ôl ffigyrau ALVA yn hawlio'r ail safle ar y rhestr atyniadau. Roedd y flwyddyn yn llawn digwyddiadau ac arddangosfeydd dan arweiniad y gymuned, fel Hip Hop: Stori Cymru, oedd yn ddathliad o'r genre yng Nghymru, a Streic!, i nodi 40 mlynedd ers streic y glowyr yn 1984. Roedd cyfle hefyd i ymwelwyr â'r Amgueddfa gynnig enw ar gyfer y replica argraffiad 3D newydd o sgerbwd mamoth blewog, a'r enillydd swyddogol oedd 'Tom Bones'. 

Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:

"Mae'n bleser gweld y ffigyrau hyn sy'n dangos pa mor awyddus yw ein hymwelwyr i ddysgu ac ymwneud â diwylliant, hanes a chelf. Ond mae hefyd yn dyst i waith caled, cyfraniad ac ymdrech y staff ym mhob un o'n saith amgueddfa.

"Rydyn ni'n hynod o falch o'n llwyddiannau ac yn fwy penderfynol nag erioed i gysylltu â mwy fyth o bobl ar draws Cymru drwy gyfrwng ein rhaglenni arddangosfeydd, digwyddiadau ac ymgysylltu amrywiol. 

"Mae rhywbeth i bawb yn ein hamgueddfeydd - yn ogystal â'r safleoedd yn rhestr ALVA, cofiwch am yr ardd hyfryd yn Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru, ein profiad unigryw o bwll glo yn Big Pit, Ffrog Galico Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a'r gwaith cymunedol sydd yn digwydd ledled gogledd Cymru tra bod Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei hail-ddatblygu."

Nodiadau i olygyddion

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau. ⁠Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. 

Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. www.amgueddfa.cymru  

Mwy am ALVA

Mae rhagor o wybodaeth am ffigyrau ALVA yma.