Helios at Auckland Arts Festival, New Zealand. Photo (c) Liam Newth (2)-2

Popeth dan Haul – tocynnau ar gael ar doriad gwawr ar gyfer haf heulog yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Here comes the Sun - tickets available at sunrise for a spectacular summer at National Museum Cardiff

Rhannu:

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Museum of the Moon yn gynharach eleni bydd yr artist Luke Jerram yn dychwelyd i Gaerdydd gyda Helios, gosodwaith trawiadol saith metr o led o'r Haul wedi'i greu gyda delweddau manwl o NASA.

Bydd tocynnau ar gael ar doriad gawr yfory [30 Ebrill] ar gyfer Helios, y gwaith syfrdanol fydd yn tywynnu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf. Hawliwch gyfle i ymgolli yng ngoleuni, cynhesrwydd a rhyfeddod y gosodwaith hynod hwn.

Bydd Helios i'w weld rhwng 21 Gorffennaf a 30 Awst gan roi cyfle i ymwelwyr o bob oed gamu dan ei gromen eirias a phrofi holl liwiau a gweadau arwyneb ein seren agosaf.

Yn y cefndir bydd gosodwaith sain atmosfferig yn creu gofod tawel lle gall teuluoedd ymgolli, a mwynhau edrych ar yr Haul mewn ffordd gwbl unigryw. ⁠

'Ar ôl gweld cymaint wnaeth pobl fwynhau Museum of the Moon, mae'n bleser cynnig profiad hudolus arall i'n hymwelwyr' meddai Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. ⁠'Mae na gynhesrwydd gwirioneddol i Helios – ymdeimlad adfywiol sy'n ffordd ddelfrydol i groesawu misoedd yr haf. ⁠Bydd yn brofiad rhyfeddol, rhad ac am ddim i deuluoedd dros wyliau'r haf.'

I ategu'r gosodwaith, mae'r Amgueddfa wedi creu rhaglen ddigwyddiadau llawn hwyl i'r teulu cyfan, gan gynnwys sesiynau Yoga Machlud, perfformiadau Science of the Sun gyda'r rapiwr gwyddoniaeth Jon Chase, ac Amgueddfa Dros Nos arbennig.

Dywedodd yr Artist, Luke Jerram: 'Roedd hi'n hyfryd rhannu'r Lleuad gyda Chaerdydd ddechrau'r flwyddyn, ac mae'n bleser dychwelyd nawr gyda'r Haul. Mae Helios yn gyfle i ymwelwyr brofi rhywbeth cynnes, llachar, llawn manylion. ⁠

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac rydyn ni'n annog ymwelwyr i archebu ymlaen llaw er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau dros yr haf. Mae rhagor o wybodaeth ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Museum Wales.

Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Postcode Lottery.

Nodiadau i olygyddion

NODIADAU I OLYGYDDION:

  • Gosodwaith teithiol gan Luke Jerram yw Helios
  • Bydd Helios i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 21 Gorffennaf a 30 Awst, a thocynnau ar werth o 30 Ebrill ⁠
  • Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd archebu ymlaen llaw yn golygu y gallwch chi dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf cyn ymweld, a'i gwneud hi'n haws i gynllunio a mwynhau eich ymweliad.

Am ragor o wybodaeth a delweddau, cysylltwch â:

Laura Osborne

07494 741 426

Swyddog Cynnwys Marchnata, Amgueddfa Cymru

laura.osborne@amgueddfacymru.ac.uk 

 
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. ⁠ 

Rydyn ni’n elusen, ac mae gennym deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.

Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru