Teulu yn gwenu wrth baratoi am y Daith Danddaearol yn Big Pit efo un o'r tywyswr

Mwynhewch Daith Danddaearol Big Pit am ddim yr haf hwn

Experience Big Pit’s Underground Tour for free this summer

Rhannu:

Bydd ymwelwyr â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn gallu mynd ar y Daith Danddaearol am ddim drwy gydol gwyliau haf yr ysgolion eleni, fel rhan o Haf o Hwyl – cyfres o weithgareddau hwyliog, cyfeillgar i deuluoedd ac i bawb eu mwynhau.

Mae'r Daith Danddaearol yn mynd ag ymwelwyr 300 troedfedd o dan y ddaear i wyneb y glo gyda thywysydd profiadol. Mae llawer o'r tywyswyr naill ai wedi gweithio yn y pyllau glo eu hunain neu yn dod o deuluoedd ble bu glowyr. Mae'r daith boblogaidd hon yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd ac yn rhoi cipolwg unigryw ar fywyd y miloedd o bobl a fu'n gweithio o dan y ddaear ym meysydd glo De Cymru.

Fel ym mhob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, mae mynediad i Big Pit yn rhad ac am ddim. Er bod treial codi tâl ar gyfer y Daith Danddaearol wedi bod ar waith ers y llynedd, bydd modd i deuluoedd ac ymwelwyr fwynhau'r daith am ddim dros wyliau'r haf eleni. Bydd yr arddangosfeydd a'r adeiladau poblogaidd eraill sydd eisoes am ddim ar y safle, gan gynnwys y Baddonau Pen Pwll, Y Brenin Glo: Profiad y Mwyngloddio, ac adeiladau hanesyddol y lofa hefyd ar agor.

Dywedodd Brian Lewis, Pennaeth Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru:

'P'un ai eich bod chi'n ymwelydd rheolaidd neu'n dod i Big Pit am y tro cyntaf, mae digon i'w weld a'i wneud yma dros yr haf.

'Mae'r Daith Danddaearol yn boblogaidd, felly rydyn ni wrth ein bodd yn gallu ei chynnig am ddim yn ystod gwyliau'r haf. Mae ymweliadau ysgol am ddim drwy gydol y flwyddyn, ac rydyn ni hefyd yn cynnal nifer o benwythnosau cymunedol am ddim. Edrychwn ymlaen at groesawu cymaint o ymwelwyr a theuluoedd â phosibl i brofi'r rhan arbennig hon o hanes Cymru.'

Yn ogystal â’r Teithiau Danddaearol am ddim, bydd ymwelydd pwysig iawn yn ymweld â Big Pit dry gydol gwyliau’r haf – sef Byti, arth breswyl sy’n caru tynnu hun-luniau. Bydd sesiynau creadigol ymarferol hefyd yn archwilio hobïau a chwaraeon cymunedau glofaol, ynghyd â gweithgareddau arbennig megis crefftau a gemau ar thema “Pythefnos y Glowyr”, wedi’u hysbrydoli gan y pythefnos o wyliau y byddai glowyr yn eu cael bob haf.

Yn ystod ei hymweliad swyddogol cyntaf â phob un o saith amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, mae Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yn ymweld â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru heddiw [Dydd Iau 2 Gorffennaf].

Wrth groesawu'r newyddion am deithiau Danddaearol am ddim a gweithgareddau haf ar gyfer teuluoedd  yn Big Pit, dywedodd y Gweinidog:

'Mae Big Pit yn un o safleoedd diwylliannol mwyaf arwyddocoal Cymru ac mae'n wych fod hyd yn oed mwy o deuluoedd ac ymwelwyr yn cael profi'r Daith Danddaearol fyd enwog yma yr haf hwn, a hynny am ddim. Mae’r cam yma yn cefnogi ein blaenoriaeth fel llywodraeth y dylai pawb yng Nghymru  gael mynediad at y celfyddydau a'n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.

'Mae hanes ein cymunedau glofaol yn rhan bwysig o'n hunaniaeth genedlaethol, ac mae Big Pit yn adrodd y straeon hynny yn rymus a diffuant.  Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn ac ymweld â Big Pit yr haf hwn – mae yna rywbeth yno i’r teulu i gyd ei fwynhau.'

Bydd Teithiau Danddaearol am ddim ar gael rhwng 18 Gorffennaf a 1 Medi. Gellir eu harchebu ar y diwrnod, yn amodol ar argaeledd. I’r rhai sy’n dymuno gwarantu lle ar daith ac amser penodol, mae tocynnau Job-a-Mas ar gael i’w prynu ymlaen llaw. Cost y rhain yw £8 yr un, neu £7 i blant.

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau haf Big Pit, ynghyd â manylion archebu’r Daith Danddaearol, ar gael: amgueddfa.cymru/bigpit

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth a delweddau cysylltwch â:

Kathryn Jenkins
Swyddog Cynnwys Marchnata (Big Pit), Amgueddfa Cymru
029 2057 3666
kathryn.jenkins@museumwales.ac.uk

communications@museumwales.ac.uk

 

Gwybodaeth am Fynediad ac Archebu

Mae mynediad i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru am ddim. Mae parcio ceir yn costio £5, ac mae’n rhad ac am ddim i ddeiliaid bathodynnau anabledd a beiciau modur.

Mae Big Pit ar agor bob dydd rhwng 9:30am a 5:00pm. Mae’r Daith Danddaearol ar gael rhwng 10:00am a 3:00pm.

Rhwng 18 Gorffennaf a 1 Medi, bydd tocynnau ar gyfer y Daith Danddaearol am ddim pan gânt eu harchebu ar y diwrnod yn yr Amgueddfa. Mae teithiau ar y diwrnod yn amodol ar argaeledd a bydd y lleoedd yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i’r felin. Rydym yn awgrymu cyrraedd mor gynnar â phosibl ar ddiwrnod eich ymweliad er mwyn osgoi siom.

Er mwyn sicrhau tocyn amser penodol ar gyfer y Daith Danddaearol, rhaid prynu tocyn Job-a-Mas ymlaen llaw am £8, neu £7 i blant. Mae’r rhain ar gael yma - Tocynnau Job-a-Mas | Museum Wales

Y tu allan i’r cyfnod hwn (18 Gorffennaf – 1 Medi), gellir prynu tocynnau ar gyfer y Daith Danddaearol ar y diwrnod yn yr Amgueddfa am £5, gyda chonsesiynau agored ar gael (nid oes angen dangos ID). Mae tocynnau Job-a-Mas gydag amser penodol gwarantedig yn costio £8 a rhaid eu prynu ymlaen llaw.

Rhaid i blant fod o leiaf un metr o daldra i gymryd rhan yn y Daith Danddaearol. Mae angen esgidiau synhwyrol, ac argymhellir haenau o ddillad gan fod y tymheredd o dan y ddaear tua 12°C.

Mae ymweliadau ysgol yn rhad ac am ddim drwy gydol y flwyddyn ac mae Big Pit hefyd yn cynnig sawl penwythnos cymunedol am ddim.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.

Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.

www.amgueddfa.cymru

 

Mae rhaglen gyhoeddus Big Pit yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery