JW Anderson yn cydweithio ag Amgueddfa Cymru ar arddangosfa i gofio Gwen John
JW Anderson collaborates with Amgueddfa Cymru on major Gwen John retrospective
Mae'r Cyfarwyddwr Creadigol Jonathan Anderson wedi cydweithio gydag Amgueddfa Cymru ar arddangosfa fawr i ddathlu gwaith yr artist Gwen John (1876 - 1939) 150 mlynedd ers ei geni.
Mae Jonathan yn berchen ar gasgliad helaeth o waith Gwen John, gan gynnwys dyfrllun prin o leian ar ei gwely angau, ac mae wedi creu cyfres o bum cornette – y benwisg gymhleth fyddai lleianod Dominicaidd yn eu gwisgo ac sydd i'w gweld yn nifer o weithiau diweddaraf Gwen ar bapur. Bydd y rhain yn cael eu dangos ochr yn ochr â Gwen John: Hardd a Hynod sy'n agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 7 Chwefror 2026.
Mae'r pum cornette wedi eu cynhyrchu o ffabrigau gwahanol mewn lliwiau amrywiol, ac yn ymateb i ddefnydd cynnil Gwen o wead, lliw a phatrwm. Byddan nhw i'w gweld gyferbyn â mynedfa'r arddangosfa, yn ddrych modern i'w gweledigaeth artistig unigryw.
Cafodd Gwen John ei geni yng Nghymru ond dyma hi'n treulio mwyafrif ei bywyd yn Ffrainc. Ar ôl dod yn Babyddes yn 1913 daeth ei chred yn rhan gynyddol o'i gwaith, a byddai hi'n dangos abid a cornette y lleian yn gyson yn ei gwaith. Cafodd ei chyfareddu gan y wisg grefyddol gain a'i symbolaeth, yn enwedig y cornette – y benwisg wen llawn starts oedd mor ffasiynol ym Mharis y 18fed ganrif ac oedd yn dal i gael ei gwisgo gan y Chwiorydd Elusengarwch Dominicaidd. Arbrofodd Gwen â'r plygiadau llym a'r gwyn llachar yn ei gweithiau ar bapur, gan greu gwaith a esblygodd o ddyfrlluniau cain yn astudiaethau haniaethol hyderus. Mae'r gweithiau'n hynod Babyddol ac yn llawn dychymyg.
Cafodd yr abid ei hailddylunio yn 1960au gan Dior. Heddiw, mae Jonathan Anderson wedi ailddychmygu penwisg y lleian, gan dynnu ar ddefnydd Gwen o liw, patrwm ac ailadrodd.
Dywedodd Jonathan Anderson:
‘Yn y byd ffasiwn mae’r newydd o’n cwmpas o hyd, ond fydda i byth yn blino ar baentiadau Gwen John – mae’n nhw’n tyfu arna i a bydda i’n eu gweld nhw o’r newydd bob tro. Dwi’n credu bod na rai artistiaid sy’n blodeuo ar gyfnodau penodol mewn hanes sy’n newid y fford fyddwn ni’n gweld y fenyw fel testun. Mae menyw yn paentio menyw yn hollol wahanol i ddyn yn paentio menyw oherwydd bod dealltwriaeth o’r ffurf fenywaidd, dealltwriaeth o emosiwn sy’n anodd iawn ei efelychu. Dyna pam dwi’n credu ei bod hi’n un o artistiaid mwyaf hanes Prydain, am ei bod hi’n newid y dynamig hwnnw.’
Dywedodd Lucy Wood, Uwch Guradur Celf yn Amgueddfa Cymru a churadur Gwen John: Hardd a Hynod:
‘Mae'r cornette yn benwisg draddodiadol wedi'i gwneud o ffabrig gwyn llawn starts sy'n cael ei blygu i edrych fel adenydd neu gyrn. Byddai'r Chwiorydd Elusengarwch Dominicaidd yn gwisgo'r benwisg o ddiwedd y ddeunawfed ganrif tan y 1960au, pan gafodd ei hailddylunio gan Dior. Pan glywodd yr Arlywydd Charles de Gaulle am y dewid dywedodd: "Wel, mae fel petai rhywun yn cynnig ailddylunio'r Tricolore!"
‘Mae'r cornette yn symbol benywaidd grymus, ac yn fotiff y byddai Gwen yn dychwelyd ato yn gyson. Yn arddangosfa Hardd a Hynod fe welwn ni ymdeimlad diwinyddol cryf yr artist, ac mae'r cornette yn amlwg mewn nifer o'r gweithiau. Ymhlith y rhain mae dyfrlluniau cynnil sy'n dal plygiadau llym y lliain mewn gwynias gofalus, ac astudiaethau llawn lliw sy'n haniaethol bron.
‘Mae dyluniadau Jonathan Anderson yn ymateb i'r elfen hon yng ngwaith Gwen, yn camu nôl i oes a fu, ac yn adleisio'r ailadrodd yn ei gwaith a'i phaled tawel. Dwi wrth fy modd bod y gweithiau hyn yn cael eu rhoi gan JW Anderson i Amgueddfa Cymru ac y byddan nhw'n dod yn rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru.’
Yn Amgueddfa Cymru mae'r casgliad cyhoeddus mwyaf o waith Gwen John, a bydd y cornettes a ddyluniwyd gan JW Anderson nawr yn dod yn rhan o'r casgliad hynod hwn.
Mae Gwen John: Hardd a Hynod i'w gweld tan 28 Mehefin 2026 cyn mynd ar daith ryngwladol.
Bydd nifer cyfyngedig o bosteri o'r cornettes ar gael i'w prynu yn yr Amgueddfa.
Mae tocynnau ar gyfer Gwen John: Hardd a Hynod ar gael nawr – amgueddfa.cymru/gwenjohn
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion:
Bydd 1000 o bosteri argraffiad cyfyngedig ar gael i'w prynu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am £65.
Gwybodaeth
Teitl arddangosfa: Gwen John: Hardd a Hynod
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiadau: 7 Chwefror - 28 Mehefin 2026
Tocynnau ar werth o 18 tachwedd 2025 drwy amgueddfa.cymru/GwenJohn
Dylunydd ffasiwn o Ogledd Iwerddon yw Jonathan Anderson a sylfaenydd JW Anderson ers 2008. Cyn hynny roedd yn gyfarwyddwr creadigol Loewe, ac ers 2025 mae wedi bod yn gyfarwyddwr creadigol Christian Dior.
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol. Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru.
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Casgliad Gwen John Amgueddfa Cymru
Yn Amgueddfa Cymru mae'r casgliad cyhoeddus mwyaf o waith Gwen John. Prynodd yr Amgueddfa y paentiad cyntaf ganddi yn 1935, a derbyn nodyn personol o ddiolch gan Gwen. Yn 1976, gan mlynedd wedi ei geni, ehangodd yr Amgueddfa ei chasgliad drwy gaffael 900 a mwy o ddarluniau, dyfrlluniau, llyfrau braslunio ac astudiaethau olew a gafodd eu casglu o'i stiwdio ar ôl ei marw.