Gwenwch, mai'n ddydd GWENer. Mis i ddathlu pen-blwydd Gwen John yn 150 oed
Calling all Gwens… A celebration to mark the month of Gwen John’s 150th birthday
Dros wythnosau olaf arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae Amgueddfa Cymru yn cynnig tocynnau am ddim i unrhyw un â'r enw Gwen!
Mae'r cynnig ar gael o ddydd GWENer 29 Mai tan i'r arddangosfa gau yng Nghaerdydd ar 28 Mehefin, i ddathlu mis pen-blwydd yr artist gafodd ei geni yn Sir Benfro ganrif a hanner yn ôl.
Brin wythnosau cyn i'r arddangosfa gau, dyma'r cyfle olaf i ymwelwyr weld yr adolygiad trylwyr hwn o waith yr artist enwog. Ac os yw 'Gwen' yn rhan o'ch enw, gallwch chi ymweld am ddim!
Dywedodd Pennaeth Arddangosfeydd Amgueddfa Cymru, Lowri Angharad Williams:
"Mae Gwen wedi bod ar wefusau pawb eleni, a'i henw i'w weld ar bosteri a baneri yng Nghymru a thu hwnt. Pa ffordd well o ddathlu ei phen-blwydd na thrwy wahodd pawb sy'n rhannu ei henw hi i fwynhau’r arddangosfa am ddim?
"Dyma'r cyfle perffaith i bob Gwen a Gwenith, Gwenno a Gwendoline i weld ein harddangosfa ryngwladol bwysig cyn iddi adael Caerdydd ar ei thaith i'r Alban a'r UDA."
Rhaid i ymwelwyr sydd am fanteisio ar y cynnig ddefnyddio'r cod GWEN150 wrth archebu tocyn ar-lein.
Ers agor ym mis Chwefror mae Gwen John: Hardd a Hynod wedi derbyn clod y beirniaid a phasio targedau ymwelwyr, gyda nifer o bobl yn ymweld â'r Amgueddfa am y tro cyntaf erioed.
Mae'r arddangosfa wedi helpu i danio ymwybyddiaeth ddiwylliannol ehangach o Gwen John, ganrif a hanner ers ei geni, gyda rhaglen ddogfen gan BBC Cymru Wales a dau lyfr newydd yn croniclo'i bywyd a'i gwaith. Fe gydweithiodd Amgueddfa Cymru hefyd gyda'r dylunydd ffasiwn enwog Jonathan Anderson, sydd yn casglu gweithiau Gwen John, i greu cyfres o cornettes wedi'u hysbrydoli gan ei gwaith. Mae'r gyfres i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd, a phoster cyfyngedig ar gael i'w brynu o'r siop.
Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:
"Mae Gwen wastad wedi bodoli yng nghysgod enwau eraill, ond nawr mae hi'n hawlio’i moment yn yr haul gydag urddas tawel sy'n nodweddiadol o'i gwaith.
"A hyd yn hyn mae'r ymateb i'r arddangosfa wedi bod yn rhyfeddol. Mae wedi taro tant gyda'n cynulleidfa, ac rydw i'n hynod falch ei bod hi wedi denu cymaint o ymwelwyr newydd. Mae wedi bod yn fraint rhannu ein casgliad â chymaint o wahanol bobl, wrth i'n hymwelwyr gael golwg wirioneddol ar Gwen a'i gwaith. Gobeithio y bydd hyn yn sbarduno mwy o bobl i gael eu hysbrydoli gan gasgliad cenedlaethol Cymru, ac rydw i'n edrych ymlaen at eu croesawu nhw i Gaerdydd a'n hamgueddfeydd ar draws Cymru."
Am fwy o wybodaeth ac i archebu, ewch i amgueddfa.cymru/GwenJohn
Nodiadau i olygyddion
SUT I ARCHEBU TOCYN A HAWLIO GOSTYNGIAD:
- Mae'r cynnig ar gael i unrhyw un â'r enw 'Gwen', neu unrhyw amrywiad ar 'Gwen' yn eu henw (e.e. Gwenno, Gwenllian, Gwenda).
- Prynwch docyn ar-lein yn amgueddfa.cymru/GwenJohn a rhoi'r cod GWEN150 yn y blwch cynnigion.
- Er mwyn hawlio tocyn am ddim ar y diwrnod yn yr Amgueddfa, bydd angen dangos cerdyn adnabod yn y Dderbynfa.
Prisiau:
|
Tymor tawelaf (Tymor ysgol: Maw-Gwe) |
Tymor prysuraf (Sad-Sul + Gwyliau ysgol) |
|||
|
Gyda chyfraniad |
Heb gyfraniad |
Gyda chyfraniad |
Heb gyfraniad |
|
|
Pris llawn |
£11 |
£10 |
£16 |
£14 |
|
Tocyn Gostyngiad Agored |
£8 |
£7 |
£11 |
£10 |
|
Dan 16, Aelodau, HYNT |
Am ddim |
Am ddim |
Am ddim |
Am ddim |
|
ICOM, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, National Art Pass |
Am ddim |
Am ddim |
Am ddim |
Am ddim |
Nodiadau i Olygyddion
- Trefnwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Orielau Cenedlaethol yr Alban, Yale Center for British Art a National Museum of Women in the Arts, Washington D.C. a bydd hi'n teithio i orielau partner yn yr Alban a'r UDA yn 2026 a 2027.
- Cefnogir yr arddangosfa'n hael gan y prif noddwr, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, gyda chefnogaeth ychwanegol y Gronfa Gelf, Sefydliad Finnis Scott, Cyfeillion Amgueddfa Cymru, Ymddiriedolaeth Gibbs, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, y Sefydliad Cerddoriaeth a Chelf Rhyngwladol ac Ymddiriedolaeth elusennol Michael Marks, yn ogystal â chefnogwyr unigol.
- Mae dau gyhoeddiad newydd yn cael eu cynhyrchu i ategu'r arddangosfa:
- o Gwen John: Strange Beauties (clawr caled, £50) yn cael ei gyhoeddi gan Yale Center for British Art ar y cyd ag Amgueddfa Cymru
- o Darganfod Gwen John / Unseen Gwen John (clawr meddal £24.99), sy'n cynnwys rhagair gan Gwyneth Lewis.
Mae'r llyfrau ar gael o siopau Amgueddfa Cymru a phob siop lyfrau dda.
- Mae rhaglen ddogfen BBC iPlayer Keep the World Away: Finding Gwen John wedi'i chyflwyno gan Sian Eleri ac yn dilyn taith Gwen o Sir Benfro i Lundain a Pharis ac yn datgelu rhyfeddod, bywyd a dylanwad parhaus yr artist i gynulleidfaoedd newydd.
- Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal New Perspectives on Gwen John: A Forum ar 11 Mehefin – symposiwm fawr lle bydd curaduron, cadwraethwyr ac ymchwilwyr yn dod ynghyd i gyflwyno syniadau newydd am weledigaeth artistig bwerus Gwen a'i dylanwad ryfeddol.
DYDDIADAU TEITHIO’R ARDDANGOSFA
- Orielau Cenedlaethol yr Alban: Modern Two, Caeredin: 1 Awst 2026 - 4 Ionawr 2027
- Yale Center for British Art, Connecticut: 18 Chwefror - 20 Mehefin 2027
- National Museum of Women in the Arts, Washington DC: 30 Gorffennaf - 28 Tachwedd 2027