Gwaith celf Gwen John, Seated Tortoiseshell Cat, yn dangos tu ôl i gath Tortoiseshell wrth eistedd.

Gweithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod wythnos hanner tymor

Purr-fect activities launched at National Museum Cardiff over half term

Rhannu:

Bydd cyfle i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros wyliau'r hanner tymor ddysgu mwy am Gwen John, ei gwaith a'i chathod. 

Mae arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod  bellach ar agor, caiff ein hymwelwyr weld tua 200 o'i gweithiau celf, ac os byddwch chi'n graff falle gewch chi gip ar ambell i bawen ar hyd y daith.

Ar ôl symud i Baris ym 1904, daeth yr arlunydd o Gymru o hyd i gath, a'i henwi ar ôl y stryd roedden nhw'n byw arni – Edgar Quinet. Mae gwaddol Gwen, ac Edgar, i'w weld heddiw, gan fod olion ei phawennau o amgylch yr arddangosfa.

Gall plant rhwng 7 ac 11 oed ddilyn y llwybr rhyngweithiol, llawn hwyl drwy'r arddangosfa, Trwy Lygaid Edgar – Taith Teuluol Arddangosfa Gwen John ⁠yn rhad ac am ddim. Lawrlwythwch y llwybr am ddim yma.

Gall ymwelwyr hefyd lawrlwytho llwybrau ar eich ffôn clyfar neu ddyfais, neu yn yr Amgueddfa trwy sganio'r codau QR wrth y Brif Ddesg.

Bydd gweithgareddau eraill hefyd ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yr wythnos hanner tymor hwn. Mae ein digwyddiad i deuluoedd Parti Paentio: Celf i Deuluoedd wedi gwerthu allan, ond cynhelir ein digwyddiad 18+, Celf gyda'r Hwyr, ar ddydd Iau 19 Chwefror.

⁠Bydd y sesiwn gyda'r hwyr yn y brif neuadd yn cynnwys sesiwn byw gan DJ Jaffa gan ddod â blas o'n harddangosfa Hip Hop: Stori Cymru i'r noson. Dewch i baentio neu i fwynhau'r bîts, bydd y parti paentio unigryw yma'n addas i bawb – does dim angen profiad blaenorol o baentio na Hip Hop! 

Bydd artist lleol yn eich tywys trwy gyfarwyddiadau cam wrth gam ac yn paentio gyda chi. Dyma ddigwyddiad perffaith i'w fwynhau gyda ffrindiau, ar ddêt neu gyda chydweithwyr. ⁠ ⁠ 

Gallwch chi hefyd fwynhau llymaid wrth i chi baentio, bydd y bar ar agor drwy'r nos. I archebu eich tocynnau, ewch i'n gwefan yma.

Meddai Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

"Mae gallu cynnal gweithgareddau cyffrous ochr yn ochr â'r arddangosfeydd unwaith mewn oes hyn yn rhywbeth yr ydym yn hynod falch ohono yn yr amgueddfa.

"Rydyn ni'n annog pawb fydd yng Nghaerdydd yr hanner tymor hwn i ymweld â ni – dewch i ddilyn ôl pawen Edgar, cath Gwen John, roi tro ar yr arlunio eich hun yn ein sesiwn paentio gyda’r hwyr, neu dweud helo i Tom Bones y Mamoth."

Nodiadau i olygyddion

GWYBODAETH:

Gwen John: Hardd a Hynod
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiadau: 7 Chwefror - 28 Mehefin 2026
Tocynnau ar werth ⁠o 18 Tachwedd 2025 drwy amgueddfa.cymru/GwenJohn

PRISIAU

  Tymor Tawel (Tymor ysgol: Mawr-Gwe)   Tymor Prysur (Sad-Sul + Gwyliau ysgol)  
  Gyda Rhodd Heb Rodd Gyda Rhodd Heb Rodd
Pris llawn £11 £10 £16 £14
Gostyngiad Agored £8 £7 £11 £10
Dan 16, Aelodau, HYNT Am ddim Am ddim Am ddim Am ddim
ICOM, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Cerdyn Celf Cenedlaethol Am ddim Am ddim Am ddim Am ddim

⁠Cefnogir yr arddangosfa'n hael gan y prif noddwr, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, gyda chefnogaeth ychwanegol y Gronfa Gelf, Sefydliad Finnis Scott, Cyfeillion Amgueddfa Cymru, Ymddiriedolaeth Gibbs, Elusen gwendoline a Margaret Davies, y Sefydliad Cerddoriaeth a Chelf Rhyngwladol ac Ymddiriedolaeth elusennol Michael Marks, yn ogystal â chefnogwyr unigol.

Mae nifer fach o gopïau papur o'r llwybr Trwy Lygaid Edgar – Taith Teuluol Arddangosfa Gwen John ar gael wrth y Ddesg yn y Brif Neuadd, yn ogystal ag wrth fynedfa'r arddangosfa. Gall ymwelwyr ddangos eu tocyn, a bydd un o'n staff yn hapus i'ch helpu. Rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.

Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. ⁠ ⁠

Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.

www.amgueddfa.cymru

Hip Hop: Stori Cymru

Mae Hip Hop: Stori Cymru yn arddangosfa ddeinamig sy’n dathlu esblygiad y genre a’r gelfyddyd yng Nghymru. Dewch i glywed am y bîts, y brecio a’r ffasiwn trwy straeon y bobl sydd wedi siapio Hip Hop drwy’r degawdau. Cefnogir yr arddangosfa gan gefnogwyr hael People's Postcode Lottery.

Mae'r arddangosfa yn dod i ben ar ddydd Sul, 22 Chwefror, 2026.

Bydd y parti paentio'n cychwyn am 7pm. Mae tocynnau ar werth am £28, sy'n cynnwys yr holl ddeunyddiau (ond nid yw'n cynnwys diodydd).