Image (9)

Grŵp gwirfoddolwyr yn rhoi clustogau i ward ysbyty

Volunteer group donates cushions to hospital ward

Rhannu:

Mae criw o Wirfoddolwyr Crefft yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre yn rhoi ffrwyth eu gwaith caled i Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Cafodd y criw eu herio i greu clustogau Batman, Bluey a Peppa Pinc â llaw, cyn ymweld â'r ysbyty i'w cyflwyno nhw i ystafell deuluoedd y ward. Roedd y tîm talentog yn gweithio am 75 awr i gyd yn cwblhau'r tri chlustog, gan gynnwys y gwaith dylunio, gan fanteisio ar y cyfle i ddangos eu crefft a chyfoethogi profiad yr ymwelwyr yn Amgueddfa Wlân Cymru hefyd. 

Dywedodd Amanda Furse, un o'r gwirfoddolwyr:

"Rydyn ni'n gwirfoddoli fel crefftwyr yn Drefach bob dydd Iau. Dyma ni'n defnyddio'r cyfle i gydweithio er mwyn dylunio a chreu tri chlustog - Peppa Pinc, Bluey a Batman Lego – oedd yn yr Amgueddfa ar gyfer digwyddiadau teuluol dros yr haf.

Roedd creu clustogau yn ffordd wych i ni weithio gyda'n gilydd ar broject. Dyma ni'n defnyddio techneg nodwydd pwnsh a gwlân lliwgar, gan greu clymau sy'n dod â'r ddelwedd ynghyd. Cafodd y rhan fwyaf o'r gwaith ei wneud wrth i ni wirfoddoli yn yr Amgueddfa, ac roedd cyfle i'r ymwelwyr weld y gwaith yn datblygu."

Cyflawnwyd y project mewn partneriaeth â Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr, ac mae'n un o nifer o brojectau cymunedol yn yr Amgueddfa.

Dywedodd Kate Evans, Uwch Swyddog Addysg Amgueddfa Wlân Cymru:

"Mae cymuned wrth galon yr Amgueddfa, ac roedden ni gyd yn gytûn y dylai'r clustogau gael eu rhoi i achos da. Dyma ni'n penderfynu rhoi'r clustogau i Uned Gofal Arbennig Babanod Glangwili, oedd yn arbennig iawn i fi fel rhywun sydd â phrofiad personol o gefnogaeth yr uned. Yn 2022 cafodd fy mab, Sam, ei eni yng Glangwili ar ôl 27 wythnos. Ar ôl wythnosau yn Uned Gofal Dwys Babanod Ysbyty Southmead Bryste, dyma fe'n dod adre i gael gofal gan y tîm yn Glangwili. Fydda i a'r teulu byth yn anghofio'r gofal a'r caredigrwydd a gawson ni a Sam. Byddwn ni'n ddiolchgar i'r tîm am byth.

Gobeithio y bydd y clustogau hyn yn cael eu gwerthfawrogi yn ystafell deuluoedd yr Uned ac yn dod â gwên i bawb sy'n cael cefnogaeth yno."

Dywedodd llefarydd ar ran Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr:

"Mae'r fenter yn falch iawn o'r bartneriaeth rhyngon ni ac Amgueddfa Wlân Cymru ac mae wedi bod yn wych cydweithio ar ddigwyddiadau eto dros yr haf. Un rhan o'r digwyddiadau hyn oedd gweld y clwb crefftau yn creu'r clustogau hyfryd hyn, ac mae'n bleser gweld eu bod nhw'n cael eu rhoi i Uned Gofal Arbennig Babanod Glangwili i gefnogi teuluoedd lleol."

Ymwelodd staff a gwirfoddolwyr yr Amgueddfa ag Ysbyty Glangwili ar 2 Rhagfyr i roi'r clustogau i'r uned ar y ward.

Nodiadau i olygyddion

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau. ⁠ Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  www.amgueddfa.cymru