Digwyddiadau Wythnos Addysg Oedolion yn safleoedd Amgueddfa Cymru
Museum Wales plan Adult Learners Week events across our sites.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Dysgwyr Oedolion ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru.
Mae'r digwyddiadau a gynigir yn amrywiol tu hwnt ac yn cynnwys teithiau arbennig o'r Orielau Celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer y rheini sy'n dysgu Cymraeg, teithiau o gwmpas ein casgliad o Amgueddfa Lechi Cymru yn Llandygai a digwyddiad cerddoriaeth a chrefft ymwybyddiaeth ofalgar yn Amgueddfa Wlân Cymru.
Diben y digwyddiadau yw ysbrydoli pobl i ddarganfod diddordeb newydd neu ddysgu sgiliau newydd – mae rhaglen Wythnos Addysg Oedolion Amgueddfa Cymru yn rhoi cyfle i bobl ar draws y wlad roi cynnig ar bethau newydd a gwahanol.
Meddai Catrin Rowlands, Pennaeth Addysg Amgueddfa Cymru:
"Rwy'n falch iawn ein bod ni fel sefydliad yn gallu cynnig ystod o weithgareddau ar draws ein holl safleoedd i gynulleidfa mor amrywiol; mae'n wirioneddol ysbrydoledig.
Rydw i hefyd yn gyffrous iawn ein bod yn ymestyn ein digwyddiadau tu hwnt i'r wythnos ac yn cynnig digwyddiadau drwy gydol mis Medi."
Ymhlith digwyddiadau mis Medi yn rhan o Wythnos Addysg fydd y Grŵp Braslunio misol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Ym mis Medi byddwn yn dathlu ail ben-blwydd y grŵp a ddechreuodd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion 2023. Meddai aelodau rheolaidd y grŵp, y mae llawer ohonynt wedi bod yn aelodau ers y cychwyn:
- Dwi wastad wedi dwli ar Sain Ffagan, ond diolch i'r grŵp rwy'n gweld yr adeiladau, byd natur a'r gwrthrychau mewn ffordd hollol newydd. Doedd gen i ddim digon o hyder i fynd tu allan i fraslunio o'r blaen ond nawr rydw i'n datblygu hyn o'r diwedd ac mae'n wych!
- Mae gwybod fy mod i'n dod yma bob mis yn fy helpu i ganolbwyntio a darlunio rhwng y sesiynau. Hefyd, mae'r anogaeth a'r ysbrydoliaeth gan bawb arall yn amhrisiadwy.
Cefnogir Wythnos Addysg Oedolion gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn rhan o ymgyrch genedlaethol Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru.
Meddai Kay Smith, Pennaeth Ymgyrchoedd, Datblygu a Pholisi yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith:
"Mae amgueddfeydd yn adnodd pwerus ar gyfer dysgu gydol oes a chysylltu â'n gilydd tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Rydym yn falch iawn o weld amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal ar draws pob un o'r safleoedd yng Nghymru gan gynnig rhaglen fywiog o ddigwyddiadau unwaith eto eleni.
O grefftau ymarferol a gweithdai cerddoriaeth i deithiau ac ieithoedd arbennig, rydym yn gwahodd y cyhoedd i archwilio treftadaeth gyfoethog Amgueddfa Cymru a darganfod rhywbeth newydd."
Gellir gweld rhestr lawn o'r digwyddiadau yn ein saith amgueddfa yma.