Dawnswyr Gwerin

Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn steil yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Rhannu:

Mae'r cennin Pedr yn eu blodau, y cawl yn y sosban fach, a nawr rydych chi'n chwilio am rywbeth gwirioneddol Gymreig i ddathlu nawddsant Cymru ar ddechrau Mawrth.

Dyma beth allwch chi'i ddisgwyl ar draws Amgueddfa Cymru dros Ddydd Gŵyl Dewi⁠: ⁠

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (CF5 6XB)

Ble yn y byd allwch chi gael blas ar fywyd yng Nghymru filoedd o flynyddoedd cyn geni Dewi Sant, yr holl ffordd hyd heddiw? Ar 1 Mawrth bydd y lle yn llawn dawnsio gwerin, a gwraig y tŷ yn ffermdy Llwyn-yr-Eos yn paratoi ar gyfer y gwanwyn yn y gegin. Cofiwch alw draw i'r adeiladau fferm hefyd wrth i'r tymor wyna ddechrau!

Os taw nid cerdded drwy adeiladau hanesyddol yw'r peth i chi, peidiwch poeni! Beth am fynd am dro drwy'n horielau ac ymgolli yn hanes cerddorol Cymru gyda chasgliad o delynau a chadeiriau Eisteddfodol o'r casgliad cenedlaethol, a'r cyfan i gyfeiliant telynau byw.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru (NP4 9XP)

Ar ei anterth roedd dros 270,000 o lowyr yn gweithio ym mhyllau glo Cymru, a gallwch chi hefyd gael blas o fywyd glöwr yn Big Pit.

Dros benwythnos 28 Chwefror ac 1 Mawrth bydd y daith danddaear am ddim i ymwelwyr, a'n tywyswyr profiadol (nifer oedd yn lowyr eu hunain) yn rhannu eu gwybodaeth am fywyd danddaear. Ewch am dro drwy'r baddondai pen pwll a'r adeiladau eraill a dychmygu sut fyddai glöwr yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Bydd yno hefyd berfformiadau byw gan blant ysgol ac artistiaid lleol, neu gwrandewch ar y curadur Ceri Thompson yn rhannu ei brofiadau o weithio fel glöwr ym mhyllau'r De. ⁠

Dewch i ddysgu mwy am sut all treftadaeth Cymru a gwneud y pethau bychain mewn bywyd wella ein lles meddyliol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau all gael gwared ar straen, gwella ein hwyliau a'n helpu i ddygymod â heriau bywyd bob dydd ar lannau Afon llwyd. ⁠

 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (SA1 3RD)

Oeddech chi'n gwybod bod gweithwyr a llafurwyr yn y dociau'n arfer gwisgo clocsiau i warchod eu traed rhag y dŵr a'r mwd dan draed? Gallwch chi gyfuno dysgu clocsio a dysgu am ddiwydiant morwrol Cymru wrth ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Crwydrwch yr orielau, neu gwyliwch Tawerin yn dangos eu talentau clocsio ac yn gwahodd pawb i fwynhau dysgu gyda nhw mewn Twmpath traddodiadol.

 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (CF10 3NP)

Pa ffordd well i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y brifddinas nag ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Eleni mae cyfle amhrisiadwy i fwynhau arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod ⁠sy'n cynnwys 200 a mwy o weithiau gan yr artist byd-enwog o Hwlffordd. Ar ôl gweld y gweithiau celf, beth am fynd i oriel Esblygiad Cymru a mwynhau taith drwy 4,600 miliwn o flynyddoedd ers y glec fawr. Bydd cyfle i weld ffefrynnau'r Amgueddfa, fel Byrti'r Beison, Bryn y Teigr, a'r atyniad diweddaraf yn y brif neuadd, Twm y mamoth.

⁠Gallwch chi gloi'r diwrnod mewn steil drwy wrando ar ganeuon hyfryd The Gentle Good mewn gig am ddim wedi'i drefnu gan FOR Cardiff.

 Amgueddfa Wlân Cymru (SA44 5UP)

Os nad oedd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn ddigon i chi, gallwch chi alw draw i Drefach ar 7 Mawrth. Mae amgueddfa Wlân Cymru yn swatio yng nghalon Cymru, a gallwch chi weld ein crefftwyr talentog yn arfer y technegau gwehyddu traddodiadol sydd wedi cael eu defnyddio yn y felin ers canrifoedd. Gallwch chi brynu blanced Gymreig wedi'i gwehyddu yn yr Amgueddfa neu yn un o'r melinau cyfagos, a lapio'ch hun yn nathliadau ein nawddsant. Ar ôl crwydro'r orielau bydd digon i ddiddanu'r teulu cyfan, gyda straeon i'r plantos a chyfle i ddysgu clocsio gyda'r pencampwr clocsio cenedlaethol, Tudur Phillips.

Mae'n siŵr bydd diwrnod prysur yn crwydro'n hamgueddfeydd hoff yn codi syched, felly beth am fwynhau diod a thafell o fara brith neu bice bach yn un o'n caffis cyfeillgar, a bachu ambell i anrheg yn y siop cyn troi am adre.

⁠Gallwn ni gysylltu â'r cyhoedd diolch i gefnogaeth chwaraewyr y People's Postcode Lottery. Am ragor o wybodaeth am ymweld â'n hamgueddfeydd edrychwch ar y rhaglen ddigwyddiadau ar amgueddfa.cymru.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau. ⁠ Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  www.amgueddfa.cymru