Cynlluniau i ddiogelu dyfodol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn camu ymlaen
Plans to secure future of National Museum Cardiff take a step forward
Penodi tîm dylunio wrth i gynlluniau ailddatblygu posibl yn yr Amgueddfa gael eu trafod
Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi AHR a C.F. Møller Architects yn dîm dylunio ar gyfer rhaglen ailddatblygu bosibl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Penodi tîm dylunio yw cam cyntaf y cynllun i sicrhau bod yr Amgueddfa – fydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2027 – yn addas at y pwrpas i’r dyfodol.
Er y byddai unrhyw waith ailddatblygu yn yr Amgueddfa yn dibynnu ar gyllid a chymeradwyo achos busnes, mae penodi tîm dylunio yn golygu bod modd dechrau o ddifri ar y gwaith paratoi angenrheidiol ar gyfer cynnal a chadw, gan roi'r Amgueddfa yn y sefyllfa orau bosib i symud ymlaen gyda gwaith ehangach, os caiff cyllid ei sicrhau yn y dyfodol.
Mae’r gwaith paratoi yn cynnwys atgyweirio to'r Amgueddfa, yn ogystal â gosod system larwm tân newydd.
Penodwyd tîm dylunio amlddisgyblaethol yn dilyn proses gaffael lawn, lle gofynnwyd i ymgeiswyr ddangos profiad ac adnoddau digonol i wireddu gweledigaeth yr Amgueddfa, ac arfer gorau wrth weithio yn y sector treftadaeth. Bydd AHR a C.F. Møller Architects yn cefnogi’r gwaith o greu cynllun ailddatblygu delfrydol cyn cyflwyno achos busnes yn y gwanwyn, fydd yn golygu trafod ag amrywiaeth eang o randdeiliaid gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a'r gymuned leol.
Byddan nhw nawr yn cael eu penodi i gyflawni cam RIBA 2 y gwaith arfaethedig angenrheidiol i gyflwyno'r achos busnes nesaf i Lywodraeth Cymru.
Mae astudiaeth dichonoldeb cyllid i lywio'r gwaith a'r gwahanol opsiynau ar gyfer ailddatblygu eisoes yn mynd rhagddo gyda More Partnership.
Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:
"Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn berl pensaernïol, ond mae cynnal adeilad hanesyddol yn her barhaus. Gyda chanmlwyddiant yr Amgueddfa ar y gorwel, rydyn ni eisiau manteisio ar y ffaith fod angen cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol i fynd gam ymhellach a gwella'r profiad i'n hymwelwyr, a sicrhau bod yr Amgueddfa yn addas at y pwrpas ar gyfer y 100 mlynedd nesaf. Ein huchelgais yw creu Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol sy'n unigryw Gymreig ac yn llawn mannau modern, cynaliadwy a hygyrch sy’n llawn ysbrydoliaeth ac ar gael i bawb eu mwynhau.
"Mae’n gynllun uchelgeisiol, ond rydyn ni'n credu bod hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adeiladu cyrchfan ddiwylliannol fywiog yng Nghaerdydd sy'n sbarduno twf economaidd ac yn ein cysylltu â'r byd trwy adrodd straeon a chydweithio ar brojectau o bwys lleol a rhyngwladol."
Dywedodd Cyfarwyddwr AHR, Gary Overton:
"Rydym yn hapus iawn i weithio gydag Amgueddfa Cymru ar y project pwysig hwn. Mae gan AHR brofiad eang mewn gwaith ail-ddatblygu adeiladau hanesyddol, ac rydym yn deall y pwysigrwydd o barchu cymeriad gwreiddiol yr adeilad gan hefyd gyflwyno gofod modern, cynaliadwy a sy'n addas i bawb.
"Bydd ein gwaith yn sicrhau bod treftadaeth a chyfnewidiadau yn cyd-weithio, a ddim yn cyfaddawdu ar steil ac ansoddau sydd yn gwneud yr adeilad yn un arbennig. Rydym yn hynod o falch i fod yn rhan o’r tîm sydd yn helpu sicrhau dyfodol y sefydliad eiconig yma wrth iddi nesáu at ei chanmlwyddiant. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid i greu cynlluniau a fydd yn gwasanaethu Cymru am genedlaethau i ddod."
Mae achos busnes i amlinellu opsiynau ar gyfer ailddatblygu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nawr yn cael ei baratoi, gyda manylion pellach i’w cadarnhau maes o law.
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i'r Golygydd
Yn ogystal â’r angen i ganfod cyllid a chymeradwyo’r achos busnes, bydd unrhyw waith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dibynnu ar drafodaethau manwl gyda Chyngor Caerdydd fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, a Cadw oherwydd statws rhestredig yr adeilad.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Amdan AHR
Mae gan cwmni pensaernïaeth ac ymgynghori adeiladu AHR naw swyddfa yn y DU, gan gynnwys Birmingham, Bryste, Caerdydd, Glasgow, Huddersfield, Leeds, Llundain, Manceinion ac yr Amwythig.
Mae’r cwmni wedi arwain projectau dros sawl sector leol a rhyngwladol, gyda’u profiad eang yn galluogi iddynt weithio ar adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol ar draws y DU, adeiladau rhestredig Gradd I a Gradd II, amgueddfeydd, adeiladau dinesig a safleoedd diwylliannol nodedig.
Mae AHR wedi gweithio ar brojectau yn yr National Portrait Gallery, Theatr Dywysoges Frenhinol, Ysgol Uwchradd Y Rhyl, Llety Myfyrwyr Aberystwyth a Gwesty’r George yn Huddersfield.
Mae eu gwaith yn cyfuno cadwraeth sydd yn gwarchod treftadaeth gyda dealltwriaeth bensaernïol a dealltwriaeth gref o sut mae pobol yn defnyddio gofod o ddydd-i-ddydd. Mae eu hasesiadau yn galluogi iddynt weithio mewn ffyrdd sensitif er mwyn sicrhau bod cymeriad gwreiddiol yr adeilad yn cael ei barchu, diogelu a’i ddathlu.
Mae prosiectau C.F. Møller Architects yn cynnwys gwaith ym Mhrifysgol Aarhus, Oriel Genedlaethol Denmarc a Darwin Museum.
@weareAHR