Tylluan Fach yn Merthyr Mawr

Casgliad Morrey Salmon ar gael i bawb

Rhannu:

Mae'n bleser gan Amgueddfa Cymru gyhoeddi bod casgliad cyfan Morrey Salmon o negatifau lluniau ar gael i bawb ei weld a'i lawrlwytho.

Yn gyn drysorydd ar Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae Harry Morrey Salmon yn adnabyddus am ei ffotograffau o adar. Wedi cael ei ddisgrifio fel adarwr mwyaf Cymru o’r ganrif fe ddechreuodd ei yrfa fel ffotograffwr yn 1900au cynnar. Yn ddiweddarach yn ei fywyd fe chwaraeodd rôl blaenllaw yng nghadwraeth y Barcud Coch yng Nghymru.  Wrth i filoedd o bobl gymryd rhan yn Big Garden Birdwatch yr RSPB fis diwethaf, mae'r casgliad hwn yn dangos rhai o'r ffotograffau cynharaf a dynnwyd fel cofnod o adar Prydain.

Yn ogystal a rhoi o ffotograffau cynharaf o adar Prydain, mae'r casgliad hefyd yn cynnwys nodiadau Morrey Salmon o ymweliad y Gyngres Adaregol Ryngwladol ag Ynys Sgogwm ym 1934. Teithiodd dros gant o gynrychiolwyr y Gyngres i'r ynys hon ar arfordir Penfro, gan gyrraedd a gadael mewn steil ar fwrdd distrywlongau'r Llynges Frenhinol, yr HMS Windsor a HMS Wolfhound, a hwyliodd yno o Ddinbych-y-pysgod.

Mae ffotograffau Morrey Salmon yn cynnig cipolwg byw ar yr achlysur hanesyddol hwn, gan ddangos bwrlwm a phrysurdeb ymweliad y gyngres a hefyd rhai wynebau cyfarwydd. Gwelwn y Cymro o ornitholegydd Ronald Lockley, ffigwr allweddol yn hanes Ynys Sgogwm, mewn sawl llun, yn ogystal â'r cyn Frenin Ferdinand I o Fwlgaria, a oedd yn wyliwr adar brwd.

Roedd y Cyrnol Morrey Salmon yn un o arloeswyr ffotograffiaeth bywyd gwyllt cynnar ac mae llawer o'i gasgliad helaeth o negatifau plât gwydr yn canolbwyntio ar adar a'r pwnc. Roedd hefyd ymhlith y cyntaf i ddefnyddio rhai o dechnegau mwyaf blaenllaw'r oes. Roedd ei gasgliad yn cynnwys rhai enghreifftiau cynnar o ffotograffiaeth liw.

 Roedd Morrey Salmon hefyd yn arloesol ac arbrofol iawn yn datblygu dulliau i ddal y foment dyngedfennol, o ddefnyddio sbardun electromagnetig i ryddhau'r caead o bell, i'w ddefnydd cynnar o drapiau camera gyda sbardunau gwifren trip a wnaed â llaw, yn ogystal â'i ddefnydd cynnar o ffotograffiaeth fflach i ddal adar yn eu hamgylchedd naturiol.

Meddai Robin Maggs, Swyddog Ffotograffiaeth Amgueddfa Cymru:

“Mae gweithio ar y negatifau hyn wedi dangos cymaint o amser ac ymdrech a roddodd Morrey Salmon i dynnu lluniau anhygoel.

Fel ffotograffydd mae yna lawer o ddelweddau yn y casgliad hwn sy'n arwyddocaol i mi. Mae un ddelwedd ohono gyda'i holl offer ar ben coeden – mae bywyd yn hawdd i ffotograffwyr modern o gymharu!

Bydd ei gasgliad o ddiddordeb mawr i'r rheini sy'n dwlu ar adar, ffotograffwyr a haneswyr ffotograffau fel ei gilydd.”

Gwnaed y gwaith gan staff Amgueddfa Cymru a sganiodd negatifau delweddau i'w digido a Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd. Hoffai Amgueddfa Cymru ddiolch i Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a oedd yn berchen ar y casgliad ffotograffiaeth ers y 1980au ac i'r teulu Salmon a gytunodd ar y cyd â Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd i drosglwyddo'r casgliad i Amgueddfa Cymru.

Mae modd gweld y casgliad ar-lein yma: Morrey Salmon, Tad Ffotograffiaeth Adar Prydain - Delweddau Amgueddfa Cymru

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau. ⁠ Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  www.amgueddfa.cymru