Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Cyhoeddi Enillydd y Comiswn Celf Newydd.
National Waterfront Museum Sets the Stage for a Stunning Sea-Inspired Artwork with New Commission Winner.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn falch iawn o gyhoeddi mai Jacqui Symons, artist argraffydd o Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i dewis fel enillydd y comiswn celf ar gyfer Neuadd Weston yr amgueddfa.
Wedi'i dewis o faes cystadleuol o 30 ymgeisydd talentog, llwyddodd Jacqui Symons i greu argraff fawr ar y panel gyda'i gweledigaeth feiddgar, a'i chysylltiad dwfn gyda threftadaeth arfordirol.
Bydd ei gwaith celf yn ychwanegiad trawiadol i'r amgueddfa.
Pwy yw Jacqui Symons?
Mae Jacqui Symons yn artist argraffydd sy’n ymateb i’r amgylchedd a’r byd naturiol, gan ganolbwyntio ar fanylion a chyffyrddiad agos.
Mae ei gwaith yn archwilio pryderon ynghylch newid hinsawdd a cholli natur a bioamrywiaeth, gan geisio cydbwyso gwerthfawrogiad o harddwch y Ddaear â neges fwy difrifol ynghylch y niwed anghildroadwy sy’n digwydd.
Mae ei gwaith yn gofyn i gynulleidfaoedd ac i’r bobl mae’n gweithio gyda nhw sylwi ar wyrthiau naturiol—i werthfawrogi’r hyn sy’n aml yn gudd neu’n fach, ac ail-ddarganfod rhyfeddod y byd naturiol.
Gall hyn gymryd llawer o ffurfiau, er bod prosesau ac ailadrodd dulliau yn rhan annatod o’i hymarfer.
Mae amser yn elfen bwysig iawn i Jacqui fel artist, yn ystyried ystyr y darn gorffenedig ac fel proses bersonol; yn aml mae ei gwaith yn cynnwys dulliau llafurus.
Ers dechrau ei gyrfa artistig, mae Jacqui wedi creu gweithiau crog sy’n deillio o luosrifau, gan ddechrau gyda Together We Are Greater yn Oriel Gelf Doncaster yn 2010 ac yna Shoals of Prosperity a gomisiynwyd yn arbennig yn Hong Kong, Forget Me Not ar gyfer Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain, yn ogystal â nifer o weithiau eraill ar gyfer orielau ac arddangosfeydd.
Ers 2019, mae hi wedi gweithio’n gyfan gwbl gyda lliw naturiol ac wedi dileu deunyddiau synthetig o’i gwaith, gan gredu na ddylai ei gwaith—na chreu ei gwaith—beri rhagor o niwed i’r blaned.
Yn dilyn arddangosfa fawr Natural:History (a fable of progress) yn gynnar yn 2018, bu’n artist preswyl yn Gerddi Botaneg Kingsbrae yng Nghanada lle bu’n archwilio argraffu natur ar raddfa fawr. Yno, newidiodd cwestiwn diniwed gan artist lleol ynghylch inciau argraffu ei ffocws yn llwyr i ddefnyddio lliwiau a llifynnau planhigion yn unig.
Datblygodd ryseitiau a phrosesau ar gyfer argraffu gyda lliw planhigion, ac oddi yno ehangu i weithio gyda thecstilau a llifynnau naturiol. Mae Jacqui newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf From Plant to Print gyda Crowood Press.
Mae gwaith Jacqui wedi’i arddangos mewn amryw o orielau ac mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys Pacific Place yn Hong Kong, Oriel Oldham, The Manchester Contemporary, Blackwell House, Amgueddfa Celf + Chrefft Ditchling, Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain, Gerddi Botaneg Kingsbrae a Wythnos Dylunio Llundain. Mae cleientiaid eraill yn cynnwys Chrysalis Arts, Hot Bed Press, Spike Print Studios, Prifysgol Manceinion, Lime Arts, Compton Verney Art Gallery & Park, Lakeland Arts, Cyngor Manceinion a Sŵ Gaer.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i wneud cais a chyflwyno cysyniad?
Gan fod yr amgueddfa ar y glannau, roeddwn yn teimlo bod dod â phrofiad ac emosiwn y môr i mewn i’r adeilad yn hanfodol.
Mae atriwm Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn berffaith ar gyfer gosodiad crog, a gallwn yn syth ddychmygu sut y gallai fy syniad edrych yn y gofod.
Roedd y brîff yn ddeniadol ac roeddwn yn hoffi’r pwyslais ar gynaliadwyedd—mae hynny’n ffactor hanfodol i mi ac i’m hymarfer.
Gan fy mod wedi symud i Dde Cymru’n ddiweddar, rwy’n gyffrous i greu gwaith ar gyfer amgueddfa genedlaethol sy’n mor agos at fy nghartref newydd—mae’n fraint fawr.
Beth a’ch hysbrydolodd?
Cefais fy ysbrydoli gan liwiau’r môr a’r ffordd mae’r dŵr yn symud gyda’r gwynt, y llanw a’r ceryntau. Rwy’n anelu at ail-greu’r symudiad hwnnw yn y tecstilau crog a fydd yn symud gydag aer yr atriwm.
Rwyf hefyd am ddod â chyfeiriadau at hanes a diwydiant morol yr amgueddfa i mewn i’r gwaith, gyda phatrymau, siapiau a gweadau wedi’u cymryd o wrthrychau yn ei chasgliad.
Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf wrth fynd ati i greu’r gwaith?
Rwy’n creu’r darn o ffabrigau sydd wedi’u lliwio’n gyfan gwbl â lliw naturiol—yn bennaf indigo, ond hefyd llifynnau fel madder, sy’n cynhyrchu arlliwiau coch; weld, sy’n gwneud melyn ac sy’n cyfuno ag indigo i greu gwyrddlas dwfn y môr; ac aerbynnau derw, sy’n cynhyrchu arlliwiau hyfryd o lwyd a brownlwyd pan gânt eu cymysgu ag haearn.
Rwy’n edrych ymlaen at allu cynhyrchu gosodiad ar raddfa mor fawr gyda lliw naturiol. Er ei fod yn her, mae’r arlliwiau cynnil a geir gyda llifynnau naturiol yn gwneud y broses yn werth chweil ac yn gweddu’n berffaith i ddarn sy’n ymwneud â’r môr.
Beth ydych chi’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn ei brofi pan fyddant yn gweld y gwaith?
Bydd Y Môr a Ni yn croesawu ymwelwyr i’r Amgueddfa Glannau, gan greu canolbwynt ac annog pobl i ystyried y môr fel endid byw ac yn newid yn barhaus—yn adleisio hanes morol yr amgueddfa ac yn adlewyrchu’r môr a’r dyfroedd y tu allan.
Mae’r mesanîn hefyd yn rhoi persbectif gwylio gwahanol, gan annog ymwelwyr i weld y gwaith o lefel arall yn hytrach nag edrych arno uwch eu pennau yn unig.
Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn dod yn ôl dro ar ôl tro ac yn gweld rhywbeth newydd bob tro—efallai’n myfyrio ar eu perthynas eu hunain â’r môr, sut mae wedi siapio’r gorffennol, a sut mae’n parhau i lunio tirwedd yr ardal leol.
Nodiadau i olygyddion
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydym yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, ac rydym yn elusen gofrestredig. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
www.amgueddfa.cymru
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Dafydd Llyr Newton-Evans
Swyddog Marchnata a Chynnwys, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
029 2057 3637
dafydd.newton-evans@amgueddfacymru.ac.uk
Dilynwch Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook.