Amgueddfa Cymru’n canfod cartrefi newydd i gerbydau rheilffordd sydd ddim yn cael digon o ddefnydd
Mae Amgueddfa Cymru yn cyhoeddi, fel rhan o'i rhaglen o reoli casgliadau, y bydd rhai o'i chasgliad o gerbydau rheilffordd yn cael cartrefi newydd ledled y DU.
Prif bwrpas hyn yw cynyddu budd cyhoeddus gwrthrychau yn y casgliad cenedlaethol sy'n cael eu tanddefnyddio drwy ganfod cartref newydd iddyn nhw. Bydd y gwrthrychau’n cael adfywiad drwy gael eu harddangos a/neu eu defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau lle gall y cyhoedd eu mwynhau unwaith eto.
Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad o gerbydau rheilffordd sydd wedi bod mewn storfa yng Nghanolfan Gasgliadau Genedlaethol Nantgarw ers cau Amgueddfa Diwydiant a Morwrol Cymru ym Mae Caerdydd yn 1998. Gyda diwedd cynlluniau Canolfan Rheilffordd Cymru, cadwodd Amgueddfa Cymru'r cerbydau rhag ofn y byddai modd eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe pan fyddai'n agor yn 2005. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn bosibl o ystyried lleoliad cyfyngedig yr Amgueddfa yng nghanol Abertawe, a naratif ei harddangosfeydd.
Fel sefydliad, mae Amgueddfa Cymru bob amser wedi bod yn barod i dderbyn ceisiadau i fenthyca cerbydau neu i drosglwyddo eu perchnogaeth i reilffyrdd treftadaeth os yw hynny'n briodol. Cafodd eitemau eu rhoi ar fenthyg i Reilffordd Bro Morganwg o 1998 hyd nes i honno gau yn 2005, ac mae sawl locomotif a cherbyd wedi cael eu trosglwyddo i reilffyrdd treftadaeth dros y blynyddoedd hefyd. Mae Amgueddfa Cymru wedi adeiladu ar y gwaith hwn drwy drosglwyddo cerbydau i sefydliadau all gynnig mwy o fynediad i’r cyhoedd ac o bosibl eu hadfer er mwyn i'r cyhoedd eu mwynhau, fel arddangosfa neu fel trenau gweithredol.
Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil:
“Gallu rhoi cartref newydd i rai o’r cerbydau hyn yw’r canlyniad gorau posibl ac rydyn ni wrth ein boddau yn gallu arddangos cyfoeth hanesyddol Cymru. Mae dros 5.3 miliwn o wrthrychau yn ein casgliad ac mae'n amhosibl dangos popeth, felly mae’n bbleser gallu rhoi cartref newydd i'r cerbydau hyn mewn gwahanol amgueddfeydd i roi bywyd newydd iddyn nhw.”
Mynegodd amgueddfeydd y tu allan i Gymru a rheilffyrdd treftadaeth ac amgueddfeydd yng Nghymru eu diddordeb yn y syniad o roi cartref newydd i'r holl gerbydau rheilffordd. Bydd Amgueddfa Cymru yn cysylltu â'r sefydliadau sy'n derbyn y cerbydau a chontractwyr cludo arbenigol i’w symud yn ystod mis Chwefror 2026.
Nodiadau i olygyddion
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. www.amgueddfa.cymru
Dyma restr o'r cerbydau rheilffordd sy'n mynd i gartref newydd ac enwau'r amgueddfeydd a'r rheilffyrdd treftadaeth sy'n eu derbyn:
|
Rhif |
Manylion |
Sefydliad derbyn |
|
69.297 |
craen locomotif Thomas Smith & Rodley rhif 10373 / 1925 |
Bressingham Steam Museum |
|
78.116i |
cerbyd siyntio Great Western Railway |
Rheilffyrdd Treftadaeth Cambrian |
|
1997.98i/1 a /2 |
Craen llaw 6 tunnell gyda cherbyd Great Western Railway |
Rheilffyrdd Treftadaeth Cambrian |
|
1997.208 |
Cerbyd 1af/3ydd rhif 238 Rheilffyrdd y Cambrian, is-ffrâm ac offer rhedeg wedi’u hadnewyddu |
Rheilffyrdd Treftadaeth Cambrian |
|
2016.95/1 |
Greenwood & Batley 4 olwyn 2 troedfedd 0 modfedd o led, locomotif mwyngloddio trydan batri 1962/63 |
Hollycombe Steam Collection |
|
73.6i |
Ruston & Hornsby 4 olwyn 3 troedfedd 0 modfedd o led, locomotif diesel 11/13mn rhif 187100 / 1937-38 |
Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr |
|
86.117i |
Cerbyd brêc trydydd dosbarth Rheilffyrdd y Cambrian, corff heb ei adnewyddu |
Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon |
|
88.37i |
Wagen tanc tar silindr Cambrian Wagon Works rhif 7328 / 1940 gyda phlatiau'r Bwrdd Glo Cenedlaethol |
Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon |
|
78.74i ac 1997.7 |
Cerbyd brêc i deithwyr Rheilffordd Rhymni, corff heb ei adnewyddu ac is-ffrâm 6 olwyn Rheilffyrdd Prydain |
Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon |
|
88.38i |
Locomotif di-dân 0-4-0 Andrew Barclay rhif 2238 / 1948 ‘Rhif 1’ yn lliw gwyrdd BP Chemicals |
Tanat Valley Light Railway |
|
90.57i |
Locomotif di-dân Andrew Barclay 0-4-0 rhif 1966 / 1929 heb enw yn lliw melyn Monsanto, enwyd yn 'Delta' gan y perchnogion blaenorol J. & J. Colman |
Tanat Valley Light Railway |
|
78.21i/2 |
Cerbyd 1af/3ydd dosbarth Rheilffordd Dyffryn Taf rhif 51, is-ffrâm ac offer rhedeg wedi’u hadnewyddu |
Ymddiriedolaeth Rheilffyrdd Cymru yn Rheilffordd Gwili |
|
DIWEDD |