Amgueddfa Cymru yn croesawu casgliad newydd er cof am gyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol
Amgueddfa Cymru welcomes new collection in memory of former Director General
Mae Amgueddfa Cymru wedi croesawu casgliad newydd er cof am y cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol, Colin Ford CBE HonFRPS a fu farw ar ddydd Sul, 21 Rhagfyr, yn 91 oed.
Roedd Colin yn guradur, hanesydd, cyfarwyddwr amgueddfa a darlledwr hoff, a rhwng 1993 ac 1998 ef oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.
Ffotograffiaeth oedd ei angerdd drwy gydol ei fywyd proffesiynol, ac fe chwaraeodd rôl allweddol yn sicrhau fod y grefft yn cael ei chydnabod a’i pharchu ar yr un lefel â'r celfyddydau eraill.
Cyn ei farwolaeth, roedd Colin wedi rhoi casgliad personol o’i lyfrau ffotograffiaeth i Amgueddfa Cymru, llafur oes o gasglu, fydd yn cael ei hadnabod fel Llyfrgell Ffotograffiaeth Colin Ford.
Daeth y rhodd diolch i ymrwymiad Amgueddfa Cymru i ffotograffiaeth, gan gynnwys y nod uchelgeisiol o greu casgliad ffotograffiaeth o safon rhyngwladol, a chyflwyno rhaglen barhaus mewn oriel bwrpasol. Diolch i'w gysylltiad personol â'r sefydliad a'i werthfawrogiad o'i hymrwymiad i arddangos ffotograffiaeth, roedd Colin yn teimlo bod Amgueddfa Cymru yn gartref teilwng i'w gasgliad.
Mae’r casgliad yn cynnwys monograffau, catalogau arddangosfa a chyfeirlyfrau yn ymwneud â hanes ffotograffiaeth. Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o bynciau o’r 19eg ganrif hyd at heddiw, gan gynnwys eitemau sy'n gysylltiedig â ffotograffwyr megis Bill Brandt, Angus McBean, Don McCullin, Eve Arnold, Josef Koudelka, Robert Capa, Martine Franck, Felix Man a Phillip Jones Griffiths.
Er cof amdano, mae teulu Colin Ford wedi sefydlu cronfa er mwyn gefnogi Amgueddfa Cymru i barhau i ddatblygu’r llyfrgell ar gyfer y dyfodol. Yn lle blodau, mae teulu Colin wedi gofyn yn garedig am roddion i'r gronfa ac yn gwerthfawrogi pob un cyfraniad.
Bydd angladd Colin Ford yn cael ei gynnal ar ddydd Llun, 19 Ionawr, a bydd baneri Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar hanner mast.
Dywedodd Uwch Guradur Ffotograffiaeth Amgueddfa Cymru, Bronwen Colquhoun:
"Mae Llyfrgell Ffotograffiaeth Colin Ford yn cynrychioli degawdau o gasglu gan yr arbenigwr ffotograffiaeth nodedig. Rydym ni mor ddiolchgar i Colin a’i deulu am y rhodd bwysig hon, a fydd yn trawsnewid ein casgliadau presennol o lyfrau ffotograffiaeth. Bydd y gronfa yn ein galluogi ni i adeiladu’r Llyfrgell er mwyn adlewyrchu ymarferion, tueddiad ac ysgoloriaeth ffotograffiaeth heddiw a’r dyfodol."
Nodiadau i olygyddion
Mwy o wybodaeth am Colin Ford:
Cyn ymuno ag Amgueddfa Cymru, bu Colin yn gweithio fel Dirprwy Guradur yn Archif Ffilm Genedlaethol y BFI ac ef oedd y curadur ffotograffiaeth cyntaf mewn amgueddfa genedlaethol yn y DU pan ymunodd a’r National Portrait Gallery (NPG). Daeth wedyn yn Gyfarwyddwr sefydlol i’r National Museum of Photography, Film and Television (NMPFT) yn Bradford, sydd yn cael ei hadnabod heddiw fel y National Science and Media Museum.
Yn ystod ei gyfnod yn yr Amgueddfa, roedd Colin Ford yn flaenllaw yn y gwaith o ddiweddaru'r brand corfforaethol, a helpu i ddatblygu'r logo eiconau oedd yn cael ei ddefnyddio ar lythyrau ac ar amlenni.
Colin oedd y sbardun ar gyfer sawl arddangosfa ffotograffiaeth, gydag un nodedig yn canolbwyntio ar waith y ffotograffydd o'r UDA, Annie Leibovitz. Roedd hefyd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu grŵp actio ym Mharc Cathays fyddai'n dod ag arddangosfeydd yn fyw mewn perfformiadau dramatig i hybu dysgu.
Mwy o wybodaeth am Amgueddfa Cymru:
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
www.amgueddfa.cymru
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook.