Amgueddfa Cymru yn caffael paentiad gan feistr bywyd llonydd
Amgueddfa Cymru acquires painting by the ‘master’ of still lifes
Bywyd Llonydd gyda Photeli Giorgio Morandi bellach i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae bywyd llonydd gan yr artist Eidalaidd dylanwadol o'r 20fed ganrif, Giorgio Morandi, i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Llwyddodd Amgueddfa Cymru i gaffael y paentiad drwy'r cynllun Derbyn Eitemau yn Lle Treth (a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr) dan gytundeb hybrid gyda nawdd ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Derek Williams a'r Gronfa Gelf.
Bywyd Llonydd gyda Photeli (1942) yw un o naw paentiad gan Morandi mewn casgliadau cyhoeddus yn y DU, a'r bywyd llonydd cynharaf. Mae ar fenthyg i Amgueddfa Cymru ers 1971 o gasgliad preifat. Erbyn hyn, diolch i gynllun Derbyn Eitemau yn Lle Treth Etifeddiant Llywodraeth EF yn ogystal â grantiau mawr gan Ymddiriedolaeth Derek Williams a'r Gronfa Gelf, mae'r Amgueddfa wedi caffael y gwaith pwysig hwn ar gyfer y casgliad cenedlaethol.
Ganwyd Giorgio Morandi yn Bologna yn 1890 ac mae llawer yn ei ystyried yn feistr ar fywyd llonydd. Datblygodd arddull nodedig iawn lle byddai gwrthrychau bob dydd fel poteli, tuniau a jygiau yn cael eu grwpio gyda'i gilydd cyn eu lleihau i'w ffurf hanfodol. Gan ddefnyddio paled cynnil, roedd Morandi yn trawsnewid y gwrthrychau yn rhywbeth myfyriol a barddonol, gan bontio'r naturiol a'r haniaethol.
Gall ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nawr weld y gwaith ochr yn ochr ag ysgythriad gan Morandi, Bywyd Llonydd gyda Lliain ar y Chwith, a brynwyd gan Ymddiriedolaeth Derek Williams yn 2017 ac sydd ar fenthyciad hirdymor i Amgueddfa Cymru. Cafodd yr artist Ffrengig Paul Cézanne ddylanwad mawr ar Morandi. Mae’n briodol felly bod ei waith yn cael ei ddangos ochr yn ochr â dau o brif ddarluniau bywyd llonydd eraill yr Amgueddfa – Bywyd Llonydd gyda Thebot Cézanne (1906), a Bywyd Llonydd gyda Poron gan Picasso (1948), gafodd ei gaffael diolch i grant hael gan y Gronfa Gelf yn 2009.
Dywedodd Pennaeth Celf Amgueddfa Cymru, Ceri Jones:
‘Mae Morandi yn cael ei ystyried yn un o artistiaid modern mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Mae gallu gweld un o’r llond llaw o’i baentiadau olew yn y DU yn yr Amgueddfa yn gyfle euraidd.
‘Hoffwn ddiolch o galon i’r cynllun Derbyn Eitemau yn Lle Treth, Ymddiriedolaeth Derek Williams a’r Gronfa Gelf am eu cefnogaeth wrth ein helpu i gaffael gwaith celf sy’n destun cryn edmygedd ar gyfer y Casgliad Cenedlaethol. Mae’n golygu y bydd y paentiad ar gael i genedlaethau’r dyfodol ei weld, ei ymchwilio a’i fwynhau.’
Dywedodd Michael Clarke CBE, Cadeirydd Panel y Cynllun Derbyn Eitemau yn Lle Treth:
“Yn y bôn, mae’r Cynllun yn dod â diwylliant llawn ysbrydoliaeth o bedwar ban at gymunedau ledled y DU. Mae Bywyd Llonydd gyda Photeli Giorgio Morandi (1890-1964) – y bywyd llonydd cynharaf ganddo mewn casgliad cyhoeddus yn y DU bellach – yn enghraifft berffaith o’r effaith hon. Diolch i’r Cynllun a chefnogwyr hael a ddarparodd nawdd ychwanegol, gall ymwelwyr ag Amgueddfa Cymru fwynhau a chymharu’r gwaith arloesol a nodweddiadol hwn gan Morandi â’r gwaith bywyd llonydd arall gan Cézanne a Picasso sydd hefyd yn y Casgliad Cenedlaethol.”
Dywedodd Emmie Kell, Cyfarwyddwr Amgueddfeydd ac Eiddo Diwylliannol, Cyngor Celfyddydau Lloegr:
“Mae dangos y bywyd llonydd gan Giorgio Morandi yn Amgueddfa Cymru yn newyddion gwych, sy’n golygu y gall mwy o bobl fwynhau gwaith gan un o artistiaid pwysicaf yr 20fed ganrif. Hwyluswyd hyn gan y Cynllun, sy'n chwarae rhan enfawr yn ein nod, fel yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd, wrth gefnogi cyfleoedd diwylliannol anhygoel i bawb.”
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, y Farwnes Twycross:
"Rwyf wrth fy modd bod y gwaith hwn gan artist Eidalaidd mor ddylanwadol bellach yn gallu cael ei fwynhau gan filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn, diolch i'r Cynllun.
"Bydd y caffaeliad hwn yn caniatáu i’r Amgueddfa arddangos un o baentiadau prin Morandi mewn casgliadau cyhoeddus yn y DU, gan ganiatáu i fwy o bobl weld ei arddull unigryw a'i feistrolaeth ar baentio bywyd llonydd.
Dywedodd William Wilkins CBE, Ymddiriedolwr a Chynghorydd Artistig Ymddiriedolaeth Derek Williams:
‘Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Derek Williams helpu Amgueddfa Cymru i gaffael y bywyd llonydd hardd a phwysig hwn gan Giorgio Morandi. Mae Morandi yn un o artistiaid Eidalaidd pwysicaf yr 20fed ganrif, gyda gweledigaeth unigryw, bron yn drosgynnol, o wrthrychau bob dydd sy’n ei osod ar wahân i bob artist arall. Yn ei dôn arallfydol mae ei waith yn perthyn i waith Gwen John ac mae ganddo enw da yn rhyngwladol.
‘Roedd Morandi hefyd yn feistr ar ysgythru a bydd y paentiad yn cael ei ddangos gydag enghraifft wych o’r dechneg hon sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Derek Williams ac sydd hefyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.’
Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf:
"Mae bywyd llonydd gan Giorgio Morandi yn ein hannog i edrych unwaith eto ar wrthrychau bob dydd mae’n ei baentio gyda dwysedd mud. Rydw I’n hynod o falch bod y Gronfa Gelf wedi medru helpu Amgueddfa Cymru i gael y llun y prin yma gan Morandi i ychwanegu at ei chasgliad – un o naw yn unig ym Mhrydain sydd mewn casgliad cyhoeddus – ac yn bosib oherwydd aelodau'r Tocyn Celf Genedlaethol. Mae’n hyfryd meddwl y bydd ymwelwyr ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn medru mwynhau'r darn anhygoel yma am flynyddoedd i ddod."
Mae Bywyd Llonydd gyda Photeli bellach i'w weld yn Oriel 13, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.amgueddfa.cymru.
Nodiadau i olygyddion
Cyngor Celfyddydau Lloegr sy'n gweinyddu'r cynllun Derbyn Eitemau yn Lle Treth. Mae'r Cynllun yn caniatáu i'r rhai sydd â bil Treth Etifeddiaeth dalu'r dreth drwy drosglwyddo dyraniadau diwylliannol, gwyddonol neu hanesyddol pwysig neu flaenllaw i'r genedl. Nid cynllun dyngarwch yw'r Cynllun ac nid yw eitemau'n cael eu 'rhoi' i amgueddfa, llyfrgell nac archif: mae gweithiau blaenllaw yn cael eu cynnig yn lle treth. Caiff deunydd sy’n cael ei dderbyn o dan y Cynllun ei ddyrannu i gasgliadau cyhoeddus ac mae ar gael i bawb. Mae'r Panel Derbyn Eitemau yn Lle Treth, sy'n cael ei gadeirio gan Michael Clarke CBE, yn cynghori a yw eiddo sy’n cael ei gynnig yn lle treth o bwys addas (rhagorol) ac yn cael ei gynnig am werth sy'n deg i'r genedl a'r trethdalwr.
Am ragor o wybodaeth a delweddau, cysylltwch â:
Rachel Bowyer
Arweinydd Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
(029) 2057 3614
rachel.bowyer@amgueddfacymru.ac.uk
Carwyn Evans
Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
(029) 2057 3460
carwyn.evans@amgueddfacymru.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae gennym deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Y Gronfa Gelf yw’r elusen genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd a galerïau. Am dros 120 o flynyddoedd mae wedi cynorthwyo sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig i ddatblygu a rhannu eu casgliadau, buddsoddi mewn pobl ac arbenigedd, tyfu cynulleidfaoedd ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Mae y Gronfa Gelf yn cysylltu amgueddfeydd a phobl gyda chelf a diwylliant gwych drwy nawdd, eiriolaethau a mentrau, oherwydd mae cael mynediad i gelf yn hanfodol ar gyfer Cymdeithas iach. Mae’n codi llais ar draws y sector drwy gynnig gwobr amgueddfa fwyaf y bydd - sef Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf – ac yn cefnogi gweithwyr amgueddfeydd trwy hyfforddiant ymroddgar a chyfres o grantiau.
Yn annibynnol ac yn cael ei arwain gan y bobl mae y Gronfa Gelf yn cael ei gefnogi gan 142,000 o aelodau sy’n prynu Tocyn Celf Genedlaethol, yn ogystal â chyfraniadau hael gan unigolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae’r Tocyn Celf Genedlaethol yn cynnig mynediad am ddim neu gyda gostyngiad i gannoedd o amgueddfeydd, galerïau ac adeiladau hanesyddol ar draws y Deyrnas Unedig, 50% i ffwrdd o brif arddangosfeydd, tanysgrifiad i gylchgrawn Art Quarterly a chylchlythyr Art In Your Inbox.
www.artfund.org