Rhys Mwyn 1-2

Amgueddfa Cymru yn caffael casgliad o wrthrychau diwylliant cerddoriaeth amgen Cymru

Amgueddfa Cymru acquires a collection of objects that showcase alternative Welsh music culture

Rhannu:

Mae un o eiconau cerddorol Cymru, Rhys Mwyn, wedi rhoi nifer o wrthrychau i Amgueddfa Cymru, gan gyfoethogi'r casgliad bywyd diwylliannol.

Rhys oedd basydd a lleisydd band pync Yr Anhrefn, wnaeth eu marc unigryw ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, y DU ac Ewrop yn yr 80au a’r 90au. ⁠

Ymhlith yr eitemau mae ei gitâr fas, crys-t y band a'i siaced ledr. Enw Rhys ar y siaced oedd Yr Offis oherwydd taw yn ei phocedi y byddai'n cadw holl arian y band ar eu teithiau drwy Ewrop! Mae hefyd wedi rhoi tair o recordiau feinyl y band – Defaid, Skateboards a Wellies, Bwrw Cwrw a Dragons Revenge ⁠– i'r casgliad.

Dywedodd Rhys Mwyn:

"Erbyn dechrau'r 80au roedd hi'n amlwg fod 'na alw am naratif newydd yn niwylliant Cymru. Roedd pobl angen lle i greu a gweiddi nerth eu pen! Dyma'r tro cyntaf i bobl greadigol oedd yn siarad Cymraeg wrthod byd Y Pethe fel oedd hi.

"Dwi wrth fy modd bod archif Yr Anhrefn wedi canfod cartref da yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gan roi cyfle i genedlaethau'r dyfodol ailddarganfod diwylliant amgen Cymru diwedd yr 20fed ganrif."

Dywedodd Fflur Morse, Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol Amgueddfa Cymru:

"Mae’r Anhrefn yn cael eu cyfri'n un o'r bandiau Cymraeg pwysicaf, yn gerddorol a gwleidyddol.

"Mae'n bleser gallu rhoi cartref i'r gwrthrychau hyn sy'n adrodd hanes cyfnod pwysig yng Ngherddoriaeth Cymru."

Bydd y gwrthrychau nawr yn cael eu catalogio a'u digideiddio cyn cael eu huwchlwytho i fas data Casgliadau Ar-lein yn y pen draw.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i’r golygydd:

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: ellen.davies@amgueddfacymru.ac.uk

Galwad i'r Wasg:

Bydd cyfle i gyfarfod Rhys Mwyn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar brynhawn 21 Mai 2026. Cysylltwch am ragor o wybodaeth neu i ddangos diddordeb.

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. ⁠ Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.

 www.amgueddfa.cymru