Hygyrchedd Datganiad ar gyfer Newyddion Amgueddfa Cymru

Rhannu:

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i unrhyw ddeunydd wedi'i gyhoeddi ar https://gwasg.amgueddfa.cymru  sy'n cael ei redeg gan Amgueddfa Cymru.

Dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd, a teipffurfiau gyda gosodiadau eich porwr neu ddyfais
  • mwyhau hyd at 400% heb i'r testun ledu tu hwnt i'r sgrin
  • defnyddio rhan fwyaf o'r wefan gyda bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • clywed y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor hawdd â phosib i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes gennych chi broblem sydd ddim wedi ei rhestru yma, neu nad ydyn ni'n cyrraedd safonau hygyrchedd cysylltwch â: ⁠cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk.

Os ydych chi angen gwybodaeth y wefan hon mewn fformat gwahanol, e.e. PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille,

Byddwn ni'n ceisio ymateb i'ch ymholiad cyn gynted â phosibl.

Proses orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau symudol) (rhif 2) sef y 'rheoliadau hygyrchedd'. Os ydych chi'n anhapus gyda'n hymateb i'ch cais, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (rhif 2). ⁠ ⁠ ⁠

Statws cymhwyso

Mae’r wefan wedi’i dylunio i gydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1 Safon AA.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Fe baratowyd y datganiad hwn ar 28 Hydref 2025.